Mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams wedi lleisio ei gwrthwynebiad i gynlluniau a gyflwynwyd mewn adroddiad newydd sydd unwaith eto yn argymell cau ysgolion Cwm Tawe.
Ar 20 Hydref 2021, yn dilyn ymgyrch gyhoeddus a dadl ddwys a welodd gynghorwyr cymunedau Cwm Tawe’n pledio’n angerddol ar ran eu trigolion, cymeradwyodd Cabinet blaenorol Cyngor Castell-nedd Port Talbot, pan oedd Llafur yn arwain y cyngor, gynnig i gau Ysgol Gynradd Alltwen, Ysgol Gynradd Godre’rgraig ac Ysgol Gynradd Llangiwg a sefydlu ysgol enfawr (super-school) 3-11 newydd ym Mhontardawe.
Er gwaethaf ymateb hynod negyddol gan y cymunedau yr effeithiwyd arnynt mewn ymgynghoriad cyhoeddus, penderfynodd yr awdurdod oedd yn cael ei redeg gan Lafur ar y pryd fwrw ymlaen â'u cynlluniau. Yn y misoedd dilynol, parhaodd y gymuned gyda’u protest ac fe gefnogwyd rhieni o fewn y gymuned gan RhAG, grŵp sy’n ymgyrchu dros addysg cyfrwng Cymraeg, pan lansion nhw adolygiad barnwrol ar y sail na chynhaliodd y Cyngor asesiad o’r effaith i addysg Gymraeg yn yr ardal – hepgoriad a olygodd fod yr ymgynghoriad wedi bod yn un anghyfreithlon. Fe lwyddodd yr adolygiad barnwrol.
Ym mis Mai 2022, collodd Llafur reolaeth ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac ymrwymodd y glymblaid reoli newydd, a oedd yn cynnwys cynghorwyr Annibynnol a Phlaid Cymru, gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd, i adolygu’r penderfyniad.
Bu aelodau pwyllgor craffu cabinet a chabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ystyried adroddiad a gyflwynwyd gan y Gyfarwyddiaeth Addysg, a oedd yn cynnwys nifer o opsiynau ynddo – er bod swyddogion yn dal i argymell cau ysgolion.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion yn agor heddiw (5 Rhagfyr) ac yn para tan 24 Ionawr, a bydd yr ymatebion yn cael eu hadrodd i’r cabinet ym mis Chwefror 2023.
Dywedodd Sioned Williams, Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, un o drigolion Alltwen a chefnogwr ymgyrch Achub ein Hysgolion:
“Mae’n siomedig gweld bod y cynnig gwreiddiol yn parhau i gael ei gynnig fel opsiwn oherwydd penderfyniad y Cyngor Llafur blaenorol, er i hyn gael ei wrthod yn aruthrol gan y cymunedau yr effeithiwyd arnynt yn ystod yr ymgynghoriad cyntaf ac yn y blwch pleidleisio fis Mai diwethaf. Mae’n rhaid gwrthod y cynnig hwn os yw opsiynau eraill ar gyfer y tair ysgol am gael eu hystyried gan y cyngor newydd felly byddwn yn annog pobl i gynnig eu syniadau.
“Mae strategaeth ddrafft cyfranogiad y cyhoedd y Cyngor – a gyflwynwyd gan swyddogion ar yr un diwrnod â’r adroddiad ysgolion – yn pwysleisio pwysigrwydd democratiaeth leol a’r angen i wrando a gweithio gyda chymunedau i wynebu heriau newydd gyda’n gilydd.
“Nid yw cynnal ymgynghoriad dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn ddelfrydol, ond er mwyn aros yn driw i’r gwerthoedd a’r ysbryd y mae’r Cyngor hwn yn eu harddel, rhaid inni gael ymgynghoriad ystyrlon gyda chyfleoedd digonol i’r cyhoedd adolygu, ystyried, dadlau, ac ymateb i yr holl gynigion a gyflwynir, nid dim ond y rhai a ffefrir gan swyddogion. Bydd y penderfyniad hwn yn ail-lunio tirwedd addysgol Cwm Tawe ac yn cael effaith sylweddol ar rieni, plant, a’r gymuned ehangach. Unwaith eto, byddaf yn lleisio fy ngwrthwynebiad i'r ysgol enfawr a byddaf yn cefnogi archwilio gwahanol opsiynau ar gyfer pob cymuned ysgol.
“Rhaid blaenoriaethu disgyblion Ysgol Godre’rgraig sydd ar hyn o bryd mewn adeiladau dros dro i ffwrdd o’u cymuned yn y cynlluniau hyn. Rwy’n annog pobl i fynegi eu barn drwy’r ymgynghoriad. Rhaid i lais ein cymunedau gael ei glywed ac rwy’n hyderus y bydd yn cael ei wrando arno’r tro hwn.”
Wrth ymateb i bryderon a chwestiynau y mae rhai wedi’u codi, megis y £22 miliwn a gymeradwywyd, cynnwys uned ASD a phwll nofio, dywedodd Sioned Williams:
“Mae rhai wedi awgrymu y byddai unrhyw symud oddi wrth y cynnig gwreiddiol a gyflwynwyd gan Lafur yn peryglu cyllid, ac yn amddifadu’r gymuned o gyfleusterau ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, a phwll nofio newydd. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir bod cyllid ar gael ar gyfer adnewyddu adeiladau presennol, a gallai uned arbenigol gael ei hymgorffori mewn cynlluniau ar gyfer ysgol newydd neu ysgol wedi'i hadnewyddu, nid dim ond ar gyfer ysgol enfawr.
“O ran y pwll nofio, rydym i gyd yn gwybod nad yw’r pwll presennol ym Mhontardawe wedi derbyn buddsoddiad digonol dros y blynyddoedd. Ond rwy’n deall y gall y Cyngor gysylltu â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am wahanol gronfeydd cyllid i gael pwll newydd.”