Canfyddiadau gwasanaeth mamolaeth Abertawe yn “bryderus iawn”, medd Plaid Cymru

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd mwy o gyfrifoldeb am faterion oedd eisoes yn “hysbys” o ran gwasanaethau mamolaeth Bae Abertawe, medd yr AS lleol Sioned Williams

Dywed Sioned Williams, Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, bod "rhaid gofyn cwestiynau" i Lywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddi adroddiad damniol i wasanaethau mamolaeth a newydd-anedig ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe.

Sioned Williams stands in front of a slatted wooden backdrop

Yn dilyn archwiliad nododd arolygwyr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) "bryderon sylweddol am ddiogelwch cleifion", ac anfonwyd llythyr sicrwydd i'r bwrdd iechyd yn manylu ar weithredoedd oedd eu hangen ar unwaith.

Er bod staff yr uned wedi cael eu canmol am eu gwaith caled, canfuwyd bod lefelau staffio yn anniogel - mater y mae Ms Williams wedi tanlinellu oedd wedi ei nodi'n 'argyfyngus' ym mis Mehefin eleni. Cafodd arolygiad AGIC ei gynnal ym mis Medi, dri mis yn ddiweddarach.

Mae'r materion a godwyd yn yr adroddiad - sy'n amrywio o storio meddygaeth yn ddiogel, glendid cyffredinol, a diffyg mesurau i sicrhau bod babanod yn cael eu cadw'n ddiogel - yn ffurfio darlun "hynod bryderus", medd Ms Williams.

Mae Ms Williams wedi estyn ei diolch i'r cleifion a'r staff "dewr" sydd wedi siarad am bwnc mor bwysig.

Dyweddodd Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“O staffio i storio, o hyfforddiant i lanweithdra – mae'r catalog eang a difrifol o bryderon a godwyd yn adroddiad AGIC i wasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn ffurfio darlun pryderus iawn.

“Hyd yn oed cyn i'r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi, roedd pryderon am y gwasanaethau mamolaeth a newydd-anedig ym mwrdd iechyd Bae Abertawe yn hysbys - yn sicr mor bell yn ôl â Thachwedd y llynedd. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddatgelu'r pwynt lle cawsant wybod am y tro cyntaf am faterion gyda'r gwasanaethau hyn. Yn sicr, tynnwyd sylw at bwysau staffio fel rhai 'argyfyngus' ym mis Mehefin eleni mewn cyfarfod rhwng Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd. Rhaid i Lywodraeth Cymru ateb pam ei bod wedi cymryd cyhyd iddynt weithredu, gan ystyried mai dim ond yr wythnos hon y gosodwyd mesurau 'monitro agosach' ar y gwasanaeth.

“Hoffwn estyn fy niolch i'r holl gleifion a staff dewr sydd wedi siarad mas, ac anfon fy nghydymdeimlad dwysaf at deuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan y materion a amlygwyd yn yr adroddiad. Y cyfan y mae fy etholwyr eisiau cael ei gydnabod pa mor bryderus oedd hi iddyn nhw geisio penderfynu ar y lle mwyaf diogel i gael eu babi, a chael sicrwydd bod yr uned famolaeth yn lle mwy diogel nawr.

“Pan ofynnais i'r cwestiynau hyn i'r Gweinidog Iechyd yn gynharach yr wythnos hon, dywedwyd wrthyf mai'r bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am gyfathrebu hyn, ond rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy a chymryd cyfrifoldeb am eu rhan yn y saga truenus hwn - beth oedden nhw'n ei wybod a phryd, pam gymerodd hi gymaint o amser iddyn nhw weithredu,  a pham maen nhw'n gwrthod derbyn cyfrifoldeb am droi pethau o gwmpas? Wedi'r cyfan, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am iechyd yn y pen draw.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd