Plaid Cymru yn datgelu bod nifer y rhybuddion du “yn ddiddiwedd” mewn ysbyty yn Abertawe

Mae Plaid Cymru wedi datgelu fod Ysbyty Treforys wedi datgan y lefel uchaf o rybudd naw gwaith y llynedd

A photograph of patients waiting in a hospital waiting room.

Mewn gwybodaeth a welwyd gan Blaid Cymru, datgelwyd bod Ysbyty Treforys wedi datgan naw Digwyddiad Parhad Busnes – ‘rhybudd du’ fel y’i gelwir – yn ystod y 12 mis diwethaf.

Mae pump o’r rhain wedi digwydd yn ystod y pum mis diwethaf, ac ym mis Ebrill yn unig, am bum niwrnod, cynghorodd Bwrdd Prifysgol Bae Abertawe (SBUHB) bobl i osgoi dod i Adran Achosion Brys yr ysbyty oni bai eu bod yn ddifrifol wael neu wedi’u hanafu’n ddrwg.

Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y caiff rhybudd du ei alw a dyma’r lefel rhybudd uchaf y gall bwrdd iechyd ei datgan.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, a gododd hyn gyda’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth 16 Ebrill) “byddech yn disgwyl felly mai digwyddiad prin iawn yw hwn.

Fodd bynnag, mewn gwybodaeth a rannwyd gyda Phlaid Cymru, cadarnhaodd staff o fewn Tîm Adran Gweithrediadau ac Achosion Brys Ysbyty Treforys fod yr ysbyty wedi datgan naw digwyddiad parhad busnes allanol unigol ers mis Ebrill 2023.

Wrth holi'r Prif Weinidog yn uniongyrchol, rhannodd Ms Williams achosion tri etholwr, un ohonynt yn berson saith deg saith oed o Gastell-nedd, y canfuwyd yn ddiweddarach ei fod wedi torri ei wddf, ac a fu’n aros bron i ugain awr am ambiwlans a phump awr arall i gael ei weld gan feddyg yn Ysbyty Treforys.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Mae’n gwbl annerbyniol bod y rhybudd uchaf hwn wedi gorfod cael ei alw mor aml, bod y  pwysau ar y bwrdd iechyd mor ddifrifol. Rhaid mynd i’r afael â hyn fel y gall pobl sy’n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe fod yn dawel eu meddwl bod eu hadran achosion brys fwyaf yn gallu diwallu eu hanghenion, pan fyddant fwyaf mewn angen.

“Mae’r bwrdd iechyd wedi dangos gwytnwch rhyfeddol yn wyneb y pwysau di-baid hwn, ac rwy’n estyn fy niolch o waelod calon i’r staff sydd wedi gorfod gweithio’n galed i ddod â’r gwasanaeth yn ôl o’r dibyn bob tro. Ond erys y ffaith na ddylid eu rhoi yn y sefyllfa hon.

“Mae’r Prif Weinidog yn dweud bod mynd i’r afael â phwysau’r gwasanaeth iechyd yn brif ffocws, ond tra bod recriwtio a chadw staff yn parhau i fod yn broblem enfawr o fewn y GIG, a’r rhan fwyaf o’n byrddau iechyd yn parhau i fod mewn rhyw fath o sefyllfa fonitro gan y llywodraeth, mae pwysau aruthrol ar staff hyd yn oed y tu allan i'r cyfnodau rhybudd du.

“Mae Plaid Cymru yn gwybod nad yw’r GIG yn ddim byd heb ei weithlu, a thra ein bod yn cydnabod bod arian yn brin, lles staff a’u cleifion sy’n talu’r pris yn y pen draw am fethiant Llywodraeth Lafur Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng sy’n wynebu byrddau iechyd Cymru.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd