Mae Sioned Williams AS wedi cael ei hail-ethol yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol yn y Senedd am flwyddyn arall.
Roedd Aelodau’r Senedd a chynrychiolwyr o grwpiau megis Tai Pawb, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Barnardo’s Cymru, Anabledd Dysgu Cymru, NYAS (Gwasanaeth Cenedlaethol Eiriolaeth Ieuenctid), Anabledd Cymru, WCIA (Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru), WEN (Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod), ymhlith eraill yn bresennol.
Yn dilyn busnes ffurfiol y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fe etholwyd Sioned Williams yn Gadeirydd a chytunwyd bod yr Athro Simon Hoffman fel ysgrifennydd unwaith eto, a chlywyd cyflwyniad gan Dr Charles Whitmore o Brifysgol Caerdydd, ar waith y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol, grŵp a sefydlwyd i wneud argymhellion ar yr ymgorffori cytuniadau hawliau dynol yng nghyfraith Cymru.
Yna bu’r grŵp trawsbleidiol yn trafod sawl ymgynghoriad sydd ar y gweill a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y Strategaeth Tlodi Plant, system dribiwnlysoedd newydd i Gymru, a sicrhau llwybr tuag at dai digonol.
Dywedodd Sioned Williams wrth gael ei hail-ethol:
“Mae’n bleser ac yn anrhydedd cael fy ailethol yn Gadeirydd y grŵp trawsbleidiol pwysig hwn am flwyddyn arall.”
“Mae grwpiau fel hyn yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o hwyluso deialog barhaus rhwng Aelodau’r Senedd a rhanddeiliaid allweddol. Mae’r grŵp trawsbleidiol ar Hawliau Dynol yn llwyfan pwysig ar gyfer rhannu syniadau, a diweddaru ein gilydd o’r gwaith sy’n cael ei wneud i hyrwyddo, gwreiddio ac ymgorffori hawliau holl bobl Cymru.”
“Nawr yn fwy nag erioed, mae angen inni ddiogelu Hawliau Dynol pobl Cymru sydd dan fygythiad cyson gan Lywodraeth adweithiol y DU, a chodi ymwybyddiaeth o’u hymdrechion parhaus i gyfyngu ar hawliau pobl Cymru a thanseilio ein hymdrechion i sicrhau tegwch, cydraddoldeb a chyfiawnder i bobl ein cenedl.”
“Hoffwn ddiolch i’r Athro Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe am ddod ataf ddwy flynedd yn ôl gyda’r awgrym o ailsefydlu’r grŵp hwn, ac am y cymorth ysgrifenyddol hanfodol y mae’n ei ddarparu. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb sy’n mynychu ac yn cyfrannu.”