Rhaid i Lafur ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl uwchradd sy'n byw mewn tlodi

Mae methiant Llafur i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru yn effeithio ar allu plant i ddysgu

Mae Plaid Cymru wedi adnewyddu ei galwadau ar Lywodraeth Lafur Cymru i ehangu prydau ysgol am ddim i blant ym mlynyddoedd 7- 11 o deuluoedd sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, heb unrhyw gap ar enillion.

Secondary school pupils eating a school meal in a school canteen

Mewn dadl yn y Senedd ddydd Mercher 10 Ionawr, bydd y blaid hefyd yn tynnu sylw at fethiannau'r Llywodraeth Lafur i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru mewn perthynas â chyrhaeddiad addysgol.

O dan oruchwyliaeth Llafur, mae un o bob tri phlentyn yn byw mewn tlodi - ystadegyn y mae llefarydd Plaid Cymru dros gydraddoldeb, Sioned Williams AS yn dweud sydd wedi aros yn "ystyfnig o uchel".

Wrth nodi'r gydberthynas rhwng tlodi plant a'r bwlch cyrhaeddiad addysg i blant yng Nghymru, bydd Ms Williams yn dyfynnu canlyniadau PISA diweddaraf a'r adroddiad cenedlaethol a ddangosodd fod 11% o ddysgwyr yng Nghymru wedi colli pryd o fwyd oherwydd tlodi.

Yn ystod y ddadl, bydd Plaid Cymru yn tynnu sylw at sawl achos dros y nifer uchel hon o dlodi, gan gynnwys Llafur yn diddymu targedau tlodi plant, Llywodraeth Lafur Cymru yn trosglwyddo toriadau Llywodraeth Geidwadol y DU i wasanaethau yng Nghymru, a’r diffyg cefnogaeth i deuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, Sioned Williams AS:

“Dylai'r ffaith bod un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi fod yn achos sgandal cenedlaethol. Ond pan wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru ddiddymu ei thargedau ei hun ar gyfer dileu tlodi plant, ac wedi gohirio cyhoeddi strategaeth tlodi plant newydd, a yw'n syndod bod y nifer yn parhau i fod mor ystyfnig o uchel?

“Yng Nghymru, rydym yn ffodus o gael gweision cyhoeddus gweithgar – athrawon, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cyngor a gweithwyr trydydd sector – i gyd wedi ymrwymo i helpu datblygiad ein plant a mynd i'r afael â thlodi plant. Ond dro ar ôl tro mae eu gwaith yn cael ei danseilio gan bwysau cyllidebol cystadleuol a diffyg ffocws clir gan Lywodraeth Cymru. 

“Mae cymaint sydd angen ei wneud, gan gynnwys cyhoeddi a gweithredu cynllun statudol sy'n cael ei yrru gan dargedau i fynd i'r afael â thlodi plant, i helpu i gau'r bwlch cyrhaeddiad a gwella canlyniadau addysg.

“Mae darparu pryd ysgol faethlon am ddim i fwy o blant yn un ffordd o sicrhau tegwch. Dyna pam mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pob plentyn ym mlynyddoedd 7- 11 o deulu sy’n derbyn Credyd Cynhwysol - heb gap ar enillion - i dderbyn pryd ysgol am ddim. Gan nad yw tlodi yn dod i ben wrth i blentyn gadael yr ysgol gynradd.

“Dylai mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru fod yn flaenoriaeth i Lafur ac mae angen iddynt wneud popeth o fewn eu gallu i liniaru effeithiau dinistriol tlodi ar gyrhaeddiad a rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd