Mae’r Aelodau o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru wedi galw ar Gynghorau Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr i ymchwilio i sefydlu Comisiynau Gwirionedd Tlodi (Poverty Truth Commissions).
Gwnaeth Sioned Williams AS a Luke Fletcher AS, Aelodau o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, y galwadau yn dilyn lansiad Comisiwn Gwirionedd Tlodi yn Ninas a Sir Abertawe.
Mae Comisiynau Gwirionedd Tlodi yn dod â phobl sydd â phrofiad o dlodi at ei gilydd, ynghyd â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, gan sicrhau bod unrhyw raglen lliniaru tlodi yn clywed yn uniongyrchol gan y rhai sydd â phrofiad, naill ai blaenorol neu bresennol, o fyw mewn tlodi.
Cytunodd Cyngor Abertawe i sefydlu comisiwn yn 2019 ond gohiriodd y pandemig ei lansiad tan fis Hydref 2022. Yn y lansiad, rhannodd yr 11 comisiynydd cymunedol eu profiadau o dlodi gydag arweinwyr dinesig a busnes a oedd wedi cael eu gwahodd i ymuno â’r comisiwn.
Mewn llythyrau gan Sioned Williams a Luke Fletcher, amlygwyd y dirwedd dlodi bresennol o fewn y ddau awdurdod lleol, yn ogystal ag awgrymiadau a wnaed yn yr adroddiad Amser ar gyfer Newid – Tlodi yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at Gomisiynau Gwirionedd Tlodi fel un modd y gall awdurdodau lleol gael gwell dealltwriaeth o brofiadau pobl sy’n byw mewn tlodi, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u darparu mewn ffordd sy’n fwy priodol ac sy’n adlewyrchu angen.
Dywedodd Sioned Williams AS, Llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau:
“Dros saith deg mlynedd ers sefydlu’r wladwriaeth les fodern, mae llawer gormod yn ein cymunedau yn profi tlodi ac amddifadedd.
“Er bod Plaid Cymru wedi cymryd rhai camau cadarnhaol drwy’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno polisïau, megis ymestyn prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, a all helpu i leihau rhai o effeithiau tlodi, rydym yn gwybod bod angen gwneud llawer mwy ar bob lefel i fynd i’r afael â’r anghyfiawnder parhaus a gwreiddiedig hwn.
“Mae Comisiynau Gwirionedd Tlodi yn rhoi cyfle i ddod â phobl o amgylch y bwrdd i drafod realiti tlodi a defnyddio arbenigedd pobl sydd â phrofiad o fyw mewn tlodi i gyd-gynllunio systemau a fydd yn helpu i leihau neu ddileu effeithiau gwaethaf tlodi.”
Dywedodd Luke Fletcher AS, Llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi:
“Rwy’n cynrychioli cymunedau sy’n gyson yn sgorio’n uchel ar fynegeion amddifadedd ac yn gweld pobl yn brwydro bob dydd.
“Trwy ymgysylltu ag amrywiaeth o sefydliadau a rhanddeiliaid cymunedol – o bantris cymunedol i addysgwyr lleol – gwn fod y sefyllfa yn un fregus i gynifer o’n hetholwyr.
“Dylai fod yn destun cywilydd bod cymaint o bobl yn gorfod mynd heb yr hanfodion. Rwy’n clywed yn aml gan fyfyrwyr sy’n rhoi’r gorau i addysg oherwydd na allant fforddio parhau gyda’u hastudiaethau; gan deuluoedd sy'n cael eu gorfodi i fyw mewn tai o ansawdd gwael; gan rieni yn methu rhoi bwyd ar y bwrdd i'w plant a'u teuluoedd. Mae pobl o bob oed yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.
“Lleisiau’r bobl sydd â’r profiadau hyn, sydd ar y rheng flaen o ran delio â’r materion hyn, sy’n rhaid eu clywed. Nhw yw'r arbenigwyr ac maent yn haeddu bod yn yr ystafell pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud am y gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt. Gall Comisiynau Gwirionedd Tlodi wneud rhywfaint i sicrhau hynny.”
.