Mae’r Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi addo ei chefnogaeth i gynlluniau ar gyfer lansio ‘Academi Sgiliau’ arloesol yn nociau Port Talbot.
Ymwelodd yr Aelod Senedd Plaid Cymru â Grŵp JES Port Talbot i glywed am eu cynlluniau ar gyfer datblygu rhaglen datblygu sgiliau a phrentisiaeth Ffabrigo a Weldio a bu’n mwynhau clywed gan brentisiaid presennol am eu profiadau cadarnhaol gyda JES.
Mae’r cynlluniau yn bwriadu defnyddio’r technolegau digidol trochi diweddaraf i ddarparu hyfforddiant sy’n mynd i’r afael â phrinder sgiliau’r diwydiant Ffabrigo a Weldio ar draws De Cymru.
‘Mae hwn yn brosiect blaengar a hynod arloesol’, meddai Uwch Beiriannydd Prosiect JES, Dafydd Johnson, un o’r prif swyddogion y tu ôl i’r prosiect. ‘Mae’n ymwneud â defnyddio’r technolegau digidol diweddaraf i ddarparu hyfforddiant ymarferol, diogel mewn amgylchedd diogel, trwy uno’r byd rhithwir â’r byd go iawn’
Bydd realiti estynedig yn ganolog i gynlluniau’r cwmni. Bydd prentisiaid, weldwyr presennol sy’n chwilio am gyfle i uwchsgilio a datblygiad proffesiynol a hyd yn oed disgyblion ysgol leol yn gallu cael blas ar, dysgu neu ychwanegu at y sgiliau sydd eu hangen i ddewis neu wella gyrfa yn y diwydiant.
‘Rydyn ni eisiau creu proses ddysgu Ffabrigo a Weldio fydd yn addas at y dyfodol. Credwn y bydd Realiti Estynedig yn helpu i wneud hynny ond rydym hefyd yn buddsoddi mewn llwyfannau digidol modiwlaidd sy’n gweithio ochr yn ochr â hyfforddiant wyneb i wyneb o’r radd flaenaf gan hyfforddwyr arbenigol, i wneud yn siŵr bod y prentisiaid sy’n graddio drwy ein rhaglen yn barod ar gyfer byd gwaith'.
Yn ystod ei hymweliad â JES, dywedodd Sioned Williams AS, ‘Roedd deublyg i’m hymweliad heddiw. Roeddwn am longyfarch a diolch i’r Grŵp JES am eu cefnogaeth i brosiectau lleol, yn bennaf drwy’r cymorth trafnidiaeth a logisteg y maent yn ei ddarparu i sefydliadau elusennol a chymunedol sydd wedi cael eu dwyn i’m sylw. Cefais hefyd gyfle i ddysgu mwy am gynlluniau cyffrous i ddatblygu 'Academi Sgiliau' yng nghanol dociau Port Talbot gan gwmni lleol llwyddiannus sydd â'i wreiddiau yn ei gymuned, tra'n rhan hanfodol o ddyfodol economaidd y rhanbarth ehangach' .
‘Mae’r cynnydd a wnaed a’r cynlluniau a amlinellwyd i mi yn cadarnhau y bydd y prosiect hwn yn mynd i’r afael â’r prinder sgiliau sy’n bodoli ledled Cymru yn y diwydiant peirianneg fecanyddol ac yn helpu i’w oresgyn, ac yn rhoi cyfleoedd allweddol i bobl leol ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Yr hyn sy’n creu’r argraff fwyaf arnaf, yw’r meddylfryd blaengar sy’n cael ei ddefnyddio gan y cwmni a’i gydweithredwyr prosiect i ateb gofynion y sector hwn i’r dyfodol a diwallu ei anghenion. Mae JES wedi asesu’n gywir bod y dyfodol yn un digidol ac wedi cofleidio potensial y dechnoleg hon ond heb golli golwg ar y camau ymarferol angenrheidiol i sicrhau bod proses ddysgu fanwl, lawn a chynhwysfawr yn cael ei chyflawni ac mae’n allweddol bod gweledigaeth cwmnïau fel JES yn cael eu gwireddu a’u cefnogi’n llawn gan Lywodraeth leol a chenedlaethol.”