Galw i wneud y Senedd yn hygyrch i bobl ag epilepsi ffotosensitif

Fe alwodd yr Aelod o'r Senedd Plaid Cymru Sioned Williams ar y Senedd i ‘sicrhau ei fod yn hygyrch’ i bobl sy’n byw gydag epilepsi ffotosensitif.

Ymgyrchydd epilepsi ffotosensitif, Becci Smart

Mae hyn yn dilyn ymgyrchu gan yr ymgyrchydd Becci Smart o Goytrahen, Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n byw gydag epilepsi ffotosensitif, ac sy’n cael ei mentora gan Sioned Williams drwy raglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, rhaglen sy’n ceisio cynyddu amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru.

Mae epilepsi ffotosensitif yn fath prin o epilepsi – sy’n effeithio ar 3% o’r rhai ag epilepsi yn y DU – lle mae trawiadau’n cael eu sbarduno gan oleuadau’n sy’n fflachio, neu gan rai mathau o batrymau cyferbyniol.

Mewn cwestiwn ddydd Mercher i Gomisiwn y Senedd, fe alwodd yr AoS dros Orllewin De Cymru a llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, Sioned Williams, am “fynediad cyfartal i adeiladau i bobl fel Becci sydd ag epilepsi ffotosensitif.”

Dywedodd Sioned Williams AoS:

“Dylid defnyddio goleuadau panel LED mewn adeiladau cyhoeddus fel y Senedd, yn hytrach na mathau eraill o oleuadau.

“Gallai’r Senedd hefyd helpu pobl fel Becci drwy sicrhau bod unrhyw oleuadau diffygiol yn cael eu diffodd cyn gynted ag y bydd y nam yn cael ei nodi a bod rhai newydd yn eu lle cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau iechyd y rhai sy’n ymweld â’r Senedd; nad yw unrhyw oleuadau ychwanegol neu addurnol yn fflachio; ac nad yw unrhyw fideo sy’n cael ei greu neu ei ariannu gan Gomisiwn y Senedd yn cynnwys delweddau sy’n fflachio.

“Mae’n hanfodol ein bod yn cymryd y camau angenrheidiol hyn i sicrhau bod y Senedd, a’n democratiaeth yn ehangach, yn hygyrch i bawb.”

Mewn ymateb, dywedodd Comisiynydd y Senedd Joyce Watson AS fod “y rhan fwyaf o’r goleuadau yn oleuadau LED yn y Senedd”, a bod y Senedd “ar hyn o bryd yn ymchwilio i opsiynau i ddisodli’r golau stribed fflwroleuol olaf sy’n weddill” yn yr adeilad.

Aeth ymlaen i ddweud y byddai’n “croesawu” sgyrsiau gyda Sioned Williams a’r rhai sy’n byw gydag epilepsi ffotosensitif i weld a oedd unrhyw fesurau eraill y gellid eu cymryd i wneud y Senedd yn fwy hygyrch.

Dywedodd yr ymgyrchydd epilepsi, Becci Smart:

“Diolch i Sioned am godi’r mater yma. Mae’n gam bach i’r cyfeiriad cywir i’r rhai ohonom sy’n byw gydag epilepsi ffotosensitif sy’n wynebu rhwystrau yn ein bywyd bob dydd, rhai ohonynt yn rhwystrau anorchfygol.

“Mae’r rhai sy’n byw gydag epilepsi ffotosensitif yn dechrau cael cydnabyddiaeth yng Nghymru ac mae’n braf gweld bod lleisiau yn y Senedd sy’n gwerthfawrogi’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu’n ddyddiol ac sy’n gweithio i leihau’r baich i ni.”

 

Gwyliwch gwestiwn Sioned Williams isod:

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd