Neithiwr, fe lambastiodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, Sioned Williams AS, Fil Mudo Anghyfreithlon arfaethedig Llywodraeth y DG, gan ei labelu yn “annynol” ac “anfoesol”.
Wrth siarad yn y Senedd neithiwr, tynnodd Sioned Williams, AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, sylw at yr effeithiau negyddol y byddai’r Bil newydd arfaethedig yn ei gael ar hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac amddiffynnodd hawl y Senedd i wrthod unrhyw ddeddfwriaeth San Steffan sy'n "anghydnaws â gwerthoedd a buddiannau gorau Cymru".
Ddoe, bu Aelodau’r Senedd yn trafod a ddylid rhoi cydsyniad deddfwriaethol i’r Bil ai peidio. Pleidleisiodd y Senedd yn erbyn.
Yn ystod ei chyfraniad i’r ddadl yn y Senedd, cyfeiriodd Sioned Williams hefyd at yr ymyrraeth wleidyddol brin a welwyd yn ddiweddar gan y Wiener Holocaust Library, sydd â'r casgliad hynaf y byd a mwyaf Prydain yn neunydd archifol gwreiddiol o'r cyfnod Natsïaidd, a fynegodd bryderon ynghylch effaith y Bil Mudo Anghyfreithlon arfaethedig yn ogystal â'r disgwrs a'r iaith sy'n gysylltiedig â'r Bil.
Dywedodd Sioned Williams AS:
“Roeddwn mor falch bod y Senedd wedi pleidleisio ddoe yn erbyn cydsynio i’r Bil Mudo Anghyfreithlon cwbl annynol ac anfoesol, Bil a allai orfodi Cymru i dorri cyfraith hawliau dynol rhyngwladol, yn groes i’n setliad datganoli ein hunain. Mae’r Bil hwn yn anghydnaws, er enghraifft, â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, Confensiwn Ffoaduriaid 1951 a Datganiad Cyffredinol 1948 o Hawliau Dynol.
"Mae’r Bil yn tanseilio buddiannau a hawliau plant yng Nghymru, yn ogystal â'n hymrwymiad i fod yn Genedl Noddfa.
"Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i danseilio hawl a grym y Senedd hon i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig. Mae'r Bil hwn yn enghraifft berffaith o pam yr ydym yn arddel y farn honno. Rhaid inni, gynrychiolwyr etholedig pobl Cymru, gael y hawl i benderfynu beth sydd o fudd i’n cymunedau ein hunain a phwy y byddem yn eu croesawu i’r cymunedau hynny. Dylai’r Llywodraeth a etholir gan bobl Cymru gael y pwerau i sicrhau nad yw unrhyw ddeddfwriaeth sy’n anghydnaws â gwerthoedd a buddiannau gorau Cymru, megis y Bil anghyfreithlon hwn, yn weithredol yng Nghymru."