Sioned Williams AS yn galw i gadw “darpariaeth ac arbenigedd sydd gennym ar hyn o bryd yn ne orllewin Cymru”
Mae Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau ffrwythlondeb y GIG yng Nghymru yn dilyn ansicrwydd ynghylch dyfodol y clinig yn Ysbyty CNPT.
Cododd etholwyr bryderon am y tro cyntaf yn dilyn cyfarfod rhwng staff a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe ddydd Iau 16 Tachwedd, pan gafodd staff wybod nad oedd y gwasanaeth yn gynaliadwy ar hyn o bryd.
Yn ystod y cyfarfod hwn, cynigiwyd un o dri opsiwn: datgomisiynu, lleihau darpariaeth neu gontractio’n allanol. Mewn llythyr ar y cyd at y Gweinidog Iechyd, gofynnodd Ms Williams, ynghyd â chyd-Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Luke Fletcher, am eglurhad ar ba asesiad a wnaed o’r effaith ar staff, darpariaeth gwasanaethau a chleifion, yng ngoleuni'r opsiynau hyn.
Gofynnodd Ms Williams a Mr Fletcher hefyd a oedd pedwerydd opsiwn sef i Lywodraeth Cymru gefnogi Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru i barhau â'i wasanaeth.
Mewn cwestiwn i’r Prif Weinidog yr wythnos hon (dydd Mawrth 28 Tachwedd), nododd Ms Williams fod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn flaenorol yn 2012 eu bod wedi ymrwymo i leihau’r defnydd o’r sector preifat o fewn gwasanaethau ffrwythlondeb yng Nghymru, gan gynyddu capasiti yn y GIG.
Er i’r Prif Weinidog nodi mai mater i’r bwrdd iechyd a’r awdurdodau trwyddedu a goruchwylio oedd hwn, mae Ms Williams wedi galw am “lynu at yr egwyddor y penderfynodd Llywodraeth Cymru arni ac y cytunwyd arni yn 2012.”
Ar hyn o bryd mae Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru yn gweithredu o ddau leoliad: Ysbyty CNPT a chlinig yng Nghaerdydd, ac mae pryderon wedi eu codi am y ddau glinig.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Mae hwn yn bwnc mor bwysig ond hefyd emosiynol gan fod triniaeth ffrwythlondeb yn sensitif iawn o ran amseru, yn ogystal â bod yn achosi ystod o emosiynau - o obaith, siom, galar a llawenydd i gleifion.
“Mae’n hanfodol bwysig deall yr effaith ar y rhai sy’n derbyn gwasanaethau ar hyn o bryd, y rhai sydd ar restrau aros, a’r rhai sy’n dechrau’r broses i fodloni’r meini prawf cymhwysedd a fydd yn eu galluogi i gael eu hychwanegu at y rhestrau aros.
“Mae hyn nid yn unig yn destun pryder i gleifion, ond hefyd o ran y ddarpariaeth a’r arbenigedd sydd gennym ar hyn o bryd yn ne orllewin Cymru. Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn egluro pa asesiad y mae wedi’i wneud ar yr effaith bosibl ar staff, gwasanaethau a chleifion fel ei gilydd.
“Yr hyn rydym yn gofyn amdano yw sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd y gwasanaeth hwn yn aros yng Nghymru, o ystyried eu hymrwymiad blaenorol i gadw’r gwasanaeth hwn o fewn y GIG.”