Sioned Williams AS yn codi pryderon am yr “oedi” i gwest i drychineb glofaol
Mae Sioned Williams AS wedi mynegi “pryder dwfn” am oedi pellach i’r cwest hirddisgwyliedig i Drychineb Glofa’r Gleision.
Mae bron i 13 mlynedd wedi mynd heibio ers i ddŵr lifo i Lofa’r Gleision ger Cilybebyll, Pontardawe yn dilyn gwaith ffrwydrad arferol, gan arwain at farwolaeth Charles Breslin, David Powell, Philip Hill, a Garry Jenkins.
Ar ôl blynyddoedd lawer o ymgyrchu gan y teuluoedd am gwest, yr oedd Sioned Williams yn rhan ohono, fe wnaeth y crwner orchymyn cwest llawn ym mis Rhagfyr 2022 o’r diwedd.
Er y cytunwyd ar delerau’r cwest ym mis Mawrth 2023, cafodd gwrandawiad cyn cwest a drefnwyd ar gyfer Medi 2023 ei ganslo ar fyr rybudd, ac felly fe ysgrifennodd Ms Williams at Gomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael i fynegi pryderon bod teuluoedd wedi cael eu “gadael yn y tywyllwch”.
Mewn ymateb i’w llythyr gan y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ceri Hughes, fe wnaeth Ms Williams ddysgu bod y broses i gynnal cwest wedi ei “oedi” oherwydd gwybodaeth ddaeth i law yr heddlu yn 2023, ond nad oedd yr heddlu’n “gallu darparu amserlen” ar gyfer y cwest.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Mae teuluoedd y pedwar dyn a gollodd eu bywydau yn Nhrychineb Glofa’r Gleision yn ymwybodol mai’r hyn sy’n bwysig yw canfod y gwir, nid pa mor gyflym y mae hyn yn digwydd. Eto i gyd, mae’n anodd peidio â chytuno bod tair blynedd ar ddeg yn rhy hir o lawer i aros am atebion am yr hyn a ddigwyddodd i’w hanwyliaid.
“Mae’r teuluoedd hyn wedi gorfod brwydro mor galed i sicrhau bod y cwestiynau cywir yn cael eu gofyn, heb sôn am ddod o hyd i’r atebion, ac roedd y cwest i fod yn rhan hanfodol o hynny. Mae’r ffaith fod blwyddyn wedi mynd heibio ers cytuno ar delerau’r cwest yn achosi mwy o ofid.
“Ers hynny, ni fu unrhyw arwyddion amlwg o gynnydd, ac ni fu cyswllt gan gefnogaeth i ddioddefwyr ychwaith. Am y rheswm hwn gofynnais i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Alun Michael gamu i mewn a sicrhau bod y teuluoedd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf y mae arnynt ei hangen ac yn ei haeddu.
“Yn syml, nid yw clywed am oedi pellach oherwydd y wybodaeth a dderbyniwyd y llynedd yn dderbyniol.”