Mae Sioned Williams, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru wedi llongyfarch grŵp cymunedol adnabyddus yn dilyn eu Diwrnod Hwyl Haf llwyddiannus.
Mae Forward 4 Fairyland yn gymdeithas preswylwyr sy’n cael ei harwain gan wirfoddolwyr sy'n darparu cymorth i bobl sy'n byw yn ystâd Fairyland yng Nghastell-nedd. Yn ystod eu diwrnod hwyl haf diweddar, cynhaliwyd gweithgareddau a gemau i’r teulu cyfan, stondinau lluniaeth a raffl yn ogystal â stondinau gwybodaeth gan lawer o sefydliadau megis Cymdeithas Tai Tai Tarian, Cymunedau dros Waith, Sgiliau a Hyfforddiant CNPT, Gwaith Ieuenctid Clybiau Bechgyn a Merched, Cynnig Gofal Plant CNPT a Calan DVS.
Dywedodd Sioned Williams AS:
"Roedd yn wych mynd i ddiwrnod hwyl yr haf Forward 4 Fairyland yng Nghastell-nedd a siarad â thrigolion, aelodau'r gymdeithas a sefydliadau sy’n darparu cymorth. Diolch byth, daliodd y glaw i ffwrdd a roddodd gyfle i bawb ymlacio a chael hwyl a hefyd sicrhau bod y gymuned wedi cael cyfle i gael mynediad at wybodaeth ddefnyddiol a phwysig am gymorth sydd ar gael.
“Mae grwpiau fel Forward 4 Fairyland mor bwysig wrth adeiladu ymdeimlad o gymuned a pherthyn, ac rwy’n eu llongyfarch am eu gwaith a’u penderfyniad i wneud gwahaniaeth i aelodau o’u cymuned yn enwedig o ystyried yr amseroedd caled y mae pobl yn eu hwynebu yn sgil yr argyfwng costau byw. "
Dywedodd Margaret Matthews Davies, Cadeirydd Forward 4 Fairyland:
“Cafwyd diwrnod gwych, gyda’r plant i gyd wedi mwynhau a dyma beth yw pwrpas dod â'r gymuned at ei gilydd. Hoffem ddiolch i bawb am eu cymorth i wneud y diwrnod llawn hwyl hwn yn bosibl, hoffem ddiolch i'r holl sefydliadau gwahanol a ddaeth, a hoffem ddiolch hefyd i Sioned Williams AS a ddaeth i'n cefnogi. Diolch i bawb a helpodd, yn enwedig Luke a drefnodd y cyfan. “
Dywedodd Luke Lavercombe, Ysgrifennydd y Pwyllgor:
“Roedd yn wych gweld yr holl deuluoedd yn dod i ymuno, cafodd y plant amser anhygoel, ac roedd yn ddiwrnod gwych i’r gymuned – roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus arall a drefnwyd gan Forward4Fairyland. Diolch byth, daliodd y glaw i ffwrdd y rhan fwyaf o'r dydd.
“Hoffem hefyd ddiolch i’r holl sefydliadau a gefnogodd ein Diwrnod Hwyl i’r Teulu, yn enwedig Cyngor Tref Castell-nedd a roddodd gyfraniad at gost gyffredinol y diwrnod hwyl, a diolch yn arbennig i Roxanne o Tai Tarian a gyfrannodd amrywiaeth o gemau gardd, fel rhan o'u cynllun buddion Cymunedol. Roedd y rhain yn boblogaidd iawn gyda’r plant ac fe'u mwynhawyd yn fawr, bydd y rhain nawr yn cael eu defnyddio ym mhob digwyddiad yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at yr un nesaf!”