Galw ar Lywodraeth DG i ddileu Bil Mudo Anghyfreithlon

Heddiw, fe alwodd yr Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams ar Lywodraeth San Steffan i ddileu eu Mesur Mudo Anghyfreithlon “anfoesol”.

Wrth siarad heddiw yn y Senedd, fe nododd yr Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru fod "dwsinau o sefydliadau hawliau dynol ac arbenigwyr cyfreithiol o'r farn fod y Bil yn anghydnaws â’r cytundebau hawliau dynol rhyngwladol y mae’r DU wedi’u llofnodi, gan gynnwys y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, Confensiwn Ffoaduriaid 1951 a Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948.”

Byddai’r Bil, pe bai’n cael ei basio, yn ymosodiad sylweddol ar hawliau ffoaduriaid yn y DG.

Yn ei chwestiwn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, soniodd Sioned Williams hefyd am y modd y byddai'r Bil yn “tanseilio uchelgais Cymru o ddod yn Genedl Noddfa” ac fe lambastiodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, am ei ddefnydd o iaith ar y cyfryngau cymdeithasol:

"Nid oes unrhyw amheuaeth fod y Bil ofnadwy hwn yn tanseilio nod Cymru o fod yn Genedl Noddfa, yn ogystal â'n hawydd i gryfhau, nid gyfyngu, hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad at wasanaethau. Pobl yw'r rhain, nid 'problem' fel y dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y cyfryngau cymdeithasol ddoe—nid creu ‘anrhefn’, yn ei eiriau cywilyddus, y mae ffoaduriaid yn ei wneud; ond ein brodyr a'n chwiorydd ydyn nhw sydd angen ein cefnogaeth.

"Pe bai gennym y pwerau, gallem sicrhau na fyddai'r Bil wrth-ffoaduriaid annynol hwn yn cael ei weithredu yng Nghymru. Gan nad dyma'r sefyllfa yn anffodus, fe osododd Aelodau San Steffan Plaid Cymru welliant i'w gwneud yn ofynnol i Lywodraethau'r DU a Chymru lunio canllawiau ar y cyd, yn nodi sut y gellid cysoni mesurau o dan y Ddeddf hon mewn ffordd sy’n gyson ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn genedl noddfa, ac yn gwahardd cyhoeddi canllawiau oni bai eu bod wedi’u cymeradwyo gan Senedd Cymru. Roeddwn yn siomedig na arwyddwyd ein gwelliant gan yr un Aelod Llafur Cymru yn San Steffan."

Aeth Sioned Williams, sy’n llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, ymlaen i ofyn i’r Gweinidog a oedd hi’n "cytuno â Phlaid Cymru fod y Bil yn sarhad i werthoedd pobl Cymru, yn groes i gytundebau hawliau dynol rhyngwladol ac yn groes i uchelgais datganedig Cymru o fod yn Genedl Noddfa? Ac, os felly, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau, yn groes i deitl y Bil hwn, nad oes neb sy'n ceisio noddfa yng Nghymru yn cael eu hystyried i fod yn 'anghyfreithlon'?"

Gwyliwch ei chyfraniad llawn isod:

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd