“Tra bod Llafur yn methu hyd yn oed llwyddo i gyhoeddi strategaeth, mae tlodi plant yn parhau i fod yn sgandal genedlaethol yng Nghymru” – Sioned Williams AS
Mae Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, wedi mynegi ei “siom” am ddiffyg strategaeth tlodi plant, er gwaethaf addewidion Llywodraeth Cymru y byddai hyn yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd 2023.
Yn ei chwestiwn heddiw (dydd Mercher 13 Rhagfyr) i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, nododd Ms Williams ar yr adeg hon y llynedd - ar ddiwrnod olaf busnes y Senedd cyn toriad y Nadolig – i Blaid Cymru gyflwyno cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth tlodi plant, wedi'i seilio ar dargedau statudol, “fel mater o frys”.
Nododd Ms Williams fod y ddadl wedi bod mewn ymateb i'r rhai sy'n ymgyrchu yn erbyn tlodi, megis y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, y Comisiynydd Plant, Sefydliad Bevan, ac Achub y Plant - a'u galwadau cyson am strategaeth newydd, gyda thargedau, i roi gwell ffocws, cydlyniant ac i yrru'r gwaith hanfodol sydd angen ei wneud i ddileu tlodi plant.
Pleidleisiodd Llafur y cynnig i lawr, ac yn hytrach, pleidleisio dros eu gwelliant a oedd yn addo strategaeth erbyn diwedd 2023.
Mewn ymateb i Sioned Williams yn y Senedd heddiw, mynnodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, fod mynd i'r afael â thlodi plant yn parhau'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, Sioned Williams AS:
“Mae’n anodd iawn derbyn y naratif bod dileu tlodi plant yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, oherwydd, er eu bod yn mynnu ei fod yn bwysig iddyn nhw, dyma ni ar ddiwedd blwyddyn arall heb strategaeth.
“Er bod y Prif Weinidog eisoes wedi dweud nad yw ysgrifennu strategaethau yn mynd i roi bwyd ar fwrdd unrhyw un, dywed ei gyd-AS Llafur sy'n cadeirio’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, mewn adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi ar dlodi plant, fod y ‘dystiolaeth yn glir’ bod ‘targedau yn gweithio’.
“Yn y cyfamser, tra bod Llafur yn methu hyd yn oed â llwyddo i gyhoeddi strategaeth, mae lefelau tlodi plant yng Nghymru yn parhau’n ystyfnig o uchel. Mae’r ffaith na fu targedau ar waith i fynd i’r afael â hyn ers 2016, er gwaethaf ymrwymiad y llywodraeth i ddileu tlodi plant erbyn 2020, yn sgandal genedlaethol.
“Sut gall rhywbeth fod yn ‘flaenoriaeth’ barhau i gael ei ohirio? Mae angen i Lywodraeth Cymru wella eu perfformiad ar hyn yn sylweddol er mwyn gweithio’n fwy effeithiol a strategol gan ddefnyddio’r pwerau a’r adnoddau sydd ganddynt i fynd i’r afael â’r lefelau cywilyddus o dlodi plant yng Nghymru.”