Mae’r grisiau o flaen y Senedd yn drawiadol. Yn ehangach na'r adeilad, ac wedi'u saernïo o lechi Eryri, eu bwriad yw denu cyhoedd i fyny ac i galon ein democratiaeth genedlaethol agored o wydr.
Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar wefan Left Foot Forward 28 Mawrth 2024 (yn Saesneg).
Gyda'r to yn ymestyn ymhell dros y grisiau, a'n cysgodi mewn tywydd tymhestlog, maen nhw'n lle perffaith i brotestio!
A dyna lle cefais fy hun ddydd Sul diwethaf ar fin mynd annerch rali Stand Up To Racism.
Wrth i mi sefyll yno o flaen torf fywiog, roedd fy meddwl ar dri pheth.
Yn gyntaf, yn yr adeilad hwnnw y tu ôl i mi, roedd y Senedd ar fin ethol ei Brif Weinidog du cyntaf - y cyntaf i Gymru, a'r cyntaf i unrhyw genedl Ewropeaidd.
Yn ail, y cyferbyniad llwyr â'r senedd arall ar ben arall yr M4, lle'r oeddem newydd weld triniaeth ddirmygus o Diane Abbott AS/MP: gan ddechrau gyda'r sylwadau hiliol a wnaed gan roddwr Torïaidd, nad wyf am ailadrodd ei eiriau yma, ac yna gweld y Llefarydd yn ei hanwybyddu am geisio siarad ar drafodaeth am hiliaeth ac, am wel, Diane Abbott.
Yn drydydd, roeddwn yn ymwybodol iawn o rôl gwleidyddion wrth ddangos cyfrifoldeb am bynciau o bwys byd-eang fel hiliaeth, ei herio a stopio'r casineb.
Beth rydyn ni'n ei weld yn rhy aml yn y cyfnod hwn o bolareiddio, yw'r 'aralleiddio' (‘othering’) sydd wrth wraidd rhagfarn, ac sy'n cael ei lywio a'i gamddefnyddio gan wleidyddion a'r cyfryngau asgell dde i greu rhaniad a hybu rhagfarn.
Rydym wedi cymryd rhai camau i'r cyfeiriad cywir yn y Senedd. Mae fy mhlaid i, Plaid Cymru, yn falch o fod wedi gweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru drwy ein Cytundeb Cydweithio, ar Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol - cynllun i fynd i'r afael â hiliaeth a'i ddileu yma yng Nghymru. Mae'r cynllun hwn yn dangos mor glir ein gwerthoedd cyffredin o degwch, goddefgarwch a chyfiawnder, amddiffyn a rhoi hawliau, nid eu cymryd i ffwrdd, a'n penderfyniad ar y cyd i herio rhagfarn, casineb, anghydraddoldeb a gwahaniaethu ym mhob cwr o'n cenedl.
Fodd bynnag, yr hyn sydd hefyd yn amlwg yw bod rhaid i ni weld gweithredu a newid, nid dim ond geiriau cynnes yn unig.
Mae'n rhaid i ni fynd ymhellach ac ymgyrchu dros Gymru sydd â'r grymoedd angenrheidiol i greu gwir gydraddoldeb i bawb, sy'n deillio o'n hanes a rennir, i gwrdd â'r heriau sy'n effeithio'n anghymesur ar rai o'n dinasyddion o gymharu ag eraill.
Hanes a rennir
Ceir agweddau i'w dathlu yn yr hanes hwnnw, megis cyfieithiadau o straeon caethweision John Marrant, Moses Roper a Josiah Henson i'r Gymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a daniodd frwdfrydedd a radicaliaeth y Cymry dros ddileu caethwasiaeth; a'r cysylltiadau â Paul Robeson, a ddywedodd iddo weld undod gweithwyr o bob hil yng Nghymru.
Ceir hefyd, wrth gwrs, hanes hiliaeth: terfysgoedd 1919 a chwalodd Caerdydd; poblogrwydd cerddorion wynebddu yng ngharnifalau Cymru ac ar deledu Prydain, ymhell wedi i'r arferion hiliol hynny ddod i ben yn yr Unol Daleithiau.
Ac yn fwy diweddar, carcharu John Actie, Ronnie Actie, Stephen Miller, Tony Paris ac Yusef Abdullahi ar gam ar ôl cael eu cyhuddo o lofruddio Lynette White 20 oed yng Nghaerdydd ym 1988. Mae'r ddedfryd oes a roddwyd i dri o'r dynion hyn - 'Tri Caerdydd' - yn aml yn cael ei disgrifio fel un o'r achosion gwaethaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes cyfreithiol y DU, ac yn dilyn hynny cyfaddefodd prif gwnstabl Heddlu De Cymru ar y pryd "bod yr anfantais a brofir gan gymunedau du drwy'r system cyfiawnder troseddol yn real a hollbresennol.”
Er bod rhaid i ni gydnabod a dathlu cyfraniad ein holl ddinasyddion i'n cymunedau a'n cenedl, rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod ni'n gwerthfawrogi ac yn tarfu ar y rhwystrau sy'n gallu atal ein holl ddinasyddion rhag cyfrannu'n llawn at fywyd ein cenedl.
Fel y dywedodd yr artist o Gaerdydd, Rabab Ghazoul, a anwyd yn Irac, mae gan Gymru fel gwladfa fewnol a chyfrannwr at wladychiaeth "y gallu i ddangos empathi radical a chyfrifoldeb radical hefyd."
Mae'r cyfrifoldeb hwnnw'n un y mae'n rhaid i ni ei ddangos fel gwleidyddion, a dyma oedd ar flaen fy meddwl wrth i mi annerch y dorf.
Dywedais wrthyn nhw fod cynllun gweithredu yn ddechrau gwych, ond os ydym o ddifrif am hawliau dynol, am degwch, am wrth-hiliaeth yma yng Nghymru, yna mae angen y pŵer arnom i weithredu'r cynllun hwnnw, ac ni allwn gyflawni'r newid hwnnw gydag un llaw wedi'i chlymu y tu ôl i'n cefn.
Pwerau datganoledig
Yn yr Alban, mae plismona a'r system cyfiawnder troseddol wedi cael eu datganoli i Lywodraeth yr Alban. Yng Nghymru, mae'r grym yn nwylo San Steffan o hyd.
Mae hyn yn golygu nad oes gennym ni'r grym ar hyn o bryd i fynd i'r afael yn iawn â'r troseddau casineb hiliol sy'n cynyddu ac sy'n ffurfio'r mwyafrif helaeth o droseddau casineb yng Nghymru. Mae'n golygu nad oes ganddon ni'r grym i daclo'r ffaith mai pobl dduon yw 3.1% o boblogaeth carchardai yng Nghymru, er mai dim ond 0.9% ydyn nhw o'r boblogaeth gyffredinol; bod y rhai o gefndir ethnig cymysg neu Asiaidd hefyd yn cael eu gorgynrychioli mewn carchardai a bod hyd y ddedfryd o garchar ar gyfartaledd, rhwng 2010 a 2022, 8.5 mis yn hirach i ddiffynyddion du nag i'r rhai o grŵp ethnig gwyn.
O ran y cwestiwn ehangach o gyfiawnder, mae Plaid Cymru yn credu taw'r unig ffordd gynaliadwy o greu system cyfiawnder troseddol gynhwysol a diogel i'n cymunedau sy'n gweithio i Gymru yw drwy greu system yma yng Nghymru, fel sydd wedi'i wneud yn yr Alban.
Ni allwn gamblo gyda bywydau pobl wrth aros am lywodraeth fwy blaengar yn San Steffan - er mwyn i'n cynllun gweithredu gael dannedd, rhaid i ni nodi'r camau ar gyfer cael grymoedd i’w ddeddfu.
Y llwyfan rhyngwladol
Rwyf hefyd yn glir bod rhaid i ni godi ein llais fel cenedl ar y llwyfan rhyngwladol.
Mae'r tawelwch gan ormod o wleidyddion dros yr erchyllterau sy'n cael eu cyflawni yn erbyn pobl Palestina yn gywilyddus.
Wrth i mi sefyll ar y grisiau hynny yn y Senedd, atgoffais nhw mai cynnig Plaid Cymru am gadoediad yn Gaza a basiwyd gan y Senedd ym mis Tachwedd y llynedd.
Ac roedd y dorf eisoes wedi dangos eu hymwybyddiaeth o'r ffaith bod gwleidyddion Llafur a Thorïaidd wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn. Siaradodd aelod o Lywodraeth Lafur Cymru o fy mlaen i, ac fe wnaeth y dorf ei herio - a gweddill y llywodraeth - am ymatal ar y cynnig hwn.
Mae rhai'n dweud bod ein cynnig yn ddi-ddim. Wedi'r cyfan, San Steffan sy'n gyfrifol am bolisi rhyngwladol - fel plismona a'r system cyfiawnder troseddol. Ond fel rydyn ni wneud gyda brwydrau eraill yn enwedig goresgyniad Wcráin, gallwn nodi ein condemniad cyhoeddus a gwneud yr hyn a allwn i roi gobaith i eraill. Oherwydd, ymhlith y meirw mae yna berthnasau a ffrindiau i fy etholwyr. Pobl y gwyddom ni amdanynt, pobl y mae'n rhaid eu cofio, y mae'n rhaid cadw eu straeon yn fyw, pobl sy'n rhannu ein hanes ni.
Mae dinasyddion Cymru yn disgwyl i’w gwleidyddion sefyll dros a galw am heddwch yn Gaza, fel y gwnaethon nhw dros Wcráin.
Mae llywodraethau sy'n dewis a dethol pa oresgynwyr i'w herio gyda dicter moesol a phryder am boblogaethau, a pha rai i gadw'n dawel amdanynt, yn hiliol.
Roedd y dorf o'm blaen yn cytuno.
Rydym yn sefyll gyda'n gilydd ac mae'n rhaid i ni sefyll gyda phawb - yn erbyn pob math o hiliaeth, ac yn yr amseroedd ofnadwy hyn, yn erbyn Islamoffobia ac yn erbyn Gwrthsemitiaeth. Rhaid i ni beidio â gadael i unrhyw un ein gwahanu ni ar hynny.