Plaid Cymru yn cyhoeddi cynllun i daclo’r argyfwng costau byw

Angen i Lafur wneud mwy i gefnogi teuluoedd medd Sioned Williams.

Mae Plaid Cymru heddiw wedi cyhoeddi cynllun i fynd i’r afael a’r argyfwng costau byw.

Llaw yn dal arian. Geriaiu: Cynllun Cosatau Byw Plaid Cymru

Mae’r pum cynnig yn “atebion diriaethol” a fyddai’n mynd i’r afael â’r heriau cynyddol a wynebir gan bobl dros y gaeaf.

Dywedodd Aelod Senedd Plaid Cymru a llefarydd y blaid ar gyfiawnder cymdeithasol Sioned Williams y dylai llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd fod yn gwneud mwy i “gefnogi’r rhai mewn angen”.

Dywedodd Ms Williams fod gan Gymru bwerau i weithredu'n uniongyrchol heb fawr ddim cost ychwanegol i helpu teuluoedd sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Awgrymodd nad oedd y weinyddiaeth Lafur yn gweithredu gyda’r “brys a difrifoldeb” yr oedd yr argyfwng yn ei haeddu a dywedodd eu bod yn ymddangos yn fwy bodlon “setlo am friwsion” o Lundain.

Gan amlinellu’r cynigion, dywedodd AS Plaid Cymru y byddai Plaid Cymru yn parhau i frwydro dros fuddiannau cymunedau Cymru dros y gaeaf.

Mae’r pum cynnig yn cynnwys:

  1. Gweithredu'r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar unwaith i fynd i'r afael â thlodi tanwydd.
  2. Treialu teithiau bws am ddim i rai dan 16 oed
  3. Ymestyn prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol uwchradd ar aelwydydd sy'n derbyn Credyd Cynhwysol
  4. Dechrau creu System Fuddiannau Gymreig
  5. Rhewi rhent y gaeaf a moratoriwm troi allan (evictions)

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol, Sioned Williams AS:

“Mae cost yr argyfwng anghydraddoldeb sy'n wynebu aelwydydd y gaeaf hwn yn ofnadwy. Mae pris bwyd a thanwydd wedi gadael teuluoedd yn methu cadw dau ben llinyn ynghyd. Mae biliau ynni yn uwch nag erioed. Mae taliadau rhent a morgais yn parhau i godi. Mae pobl yn mynd heb hanfodion sylfaenol.

“Mae’n gwbl anheg.

“Mae Plaid Cymru’n falch o’r camau rydyn ni eisoes wedi’u cymryd i roi mwy o arian ym mhocedi pobl a helpu cyllidebau cartrefi i fynd ymhellach – gan gynnwys helpu i ddarparu prydau ysgol am ddim i blant ysgol gynradd, sicrhau gofal plant ychwanegol am ddim, a chodi’r LCA o £30 i £40.

“Ond mae mwy y gall ac y mae’n rhaid i’r Llywodraeth Lafur ei wneud i gefnogi’r rhai mewn angen.

“Mae hyn yn cynnwys gweithredu’r Rhaglen Cartrefi Cynnes ar frys i frwydro yn erbyn tlodi tanwydd, cefnogi awdurdodau lleol i dreialu teithiau bws am ddim i bobl ifanc, ymestyn prydau ysgol am ddim i fwy o fyfyrwyr, a gweithio tuag at System Fudd-daliadau Gymreig sy’n deg ac yn effeithlon.

“Ymhellach, mae’n rhaid i’r llywodraeth weithredu ar unwaith i fynd i’r afael â’r argyfwng tai drwy gyhoeddi rhewi rhenti yn ystod y gaeaf ac ailgyflwyno moratoriwm troi allan i rentwyr preifat. Mae tai fforddiadwy a chynaliadwy yn hanfodol i liniaru'r gwaethaf o gost argyfwng anghydraddoldeb.

“Mae’r rhain i gyd yn atebion diriaethol a fydd yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r heriau enbyd a wynebir gan ein cymunedau.

“Rhaid i Lafur gamu i’r adwy, defnyddio’r pwerau sydd gan Gymru a mynd i’r afael â’r argyfwng gyda’r brys a’r difrifoldeb y mae’n ei haeddu – yn hytrach na setlo am friwsion gan y Ceidwadwyr yn Llundain.

“Bydd Plaid Cymru yn parhau i frwydro dros fuddiannau gorau ein cymunedau yn ystod yr hyn a fydd yn aeaf anodd.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd