Mae Aelodau Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru heddiw wedi datgan eu bod yn cyd-sefyll gyda gweithwyr Dur Tata yn dilyn pleidlais o blaid gweithredu’n ddiwydiannol
Mae Luke Fletcher AS a Sioned Williams AS, Aelodau Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, wedi datgan eu hundod gyda gweithwyr yng ngwaith Dur Tata ym Mhort Talbot sydd wedi pleidleisio heddiw i streicio ar ôl i’r cwmni dur nodi ei fwriad i fwrw ymlaen â chau eu ffwrneisiau chwyth, gan roi tua 2,800 o swyddi yn y fantol.
Hysbysodd Unite, sy'n cynrychioli dros fil o aelodau yn y gwaith ym Mhort Talbot, Tata Steel yn ffurfiol o'i fwriad i gynnal pleidlais ar weithredu diwydiannol ar ddydd Gwener 1af Mawrth, gyda'r bleidlais yn agor ar ddydd Gwener 8 Mawrth.
Caeodd y balot dros streicio gan aelodau Unite i ben gyda gweithwyr yn pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol.
Mae’r bleidlais i gynnal streic wedi ei gynnal wrth i Tata Steel fygwth i ddiddymu cymorth ariannol fel rhan o becyn diswyddo’r cwmni.
Wrth ymateb i ganlyniad y bleidlais ar y streic, dywedodd ASau Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru Luke Fletcher AS a Sioned Williams AS: “Mae Plaid Cymru yn sefyll mewn undod llwyr gyda’r holl weithwyr ar yr adeg hon ac rydym yn barod i gefnogi pob gweithiwr.
“Streicio yw’r peth olaf y mae unrhyw weithiwr eisiau ei wneud, ond daw’n angenrheidiol wrth wynebu’r dewis arall: dirywiad bwriadol diwydiant hanfodol ac adnodd strategol gan fuddiannau preifat.
“Mae Tata wedi gwneud penderfyniadau’n barhaus ac wedi arddangos ei fwriad ar gyfer dyfodol y ffatri er gwaethaf y cyfnod ymgynghori gyda’r undebau.
“Mae bygythiadau’r cwmni i ddiddymu cymorth ariannol hanfodol pe bai diswyddiadau yn digwydd yn destun pryder ac yn dangos parodrwydd y cwmni i beidio â pharchu democratiaeth gweithwyr – mae’r ffaith bod undebau a gweithwyr yn gwrthod cael eu dychryn a’u dylanwadu gan hyn i’w ganmol.
“Mae cymorth o £500 miliwn gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwaith dur Port Talbot yn druenus o brin ochr yn ochr â’r symiau yn y biliynau y mae gwledydd fel Ffrainc a’r Almaen yn ei fuddsoddi mewn datgarboneiddio.
“Mae Plaid Cymru yn gadarn ein barn bod yn rhaid i ni weld yr un lefelau o uchelgais yma os ydym o ddifrif am ddyfodol cynhyrchu dur gwyrdd, domestig.”