Sioned Williams yn galw am weithredu ar argyfwng y GIG

Galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd 'camau brys' i fynd i'r afael ag argyfwng y GIG

Yr wythnos hon, yn ystod dadl yn y Senedd fe alwodd Sioned Williams ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i’r afael ag argyfwng y GIG, drwy weithredu Cynllun 5-Pwynt Plaid Cymru ar iechyd.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 39% o gleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a 42% o gleifion ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Bro Morgannwg, wedi gorfod aros yn hwy na’r amser targed o 4 awr am driniaeth frys.

Dywedodd Sioned Williams:

“Mae yna argyfwng yn ein gwasanaeth iechyd, ac mae’n digwydd dan arweinyddiaeth Mark Drakeford.

“Mae amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros adrannau achosion brys yn uwch nag erioed, ac mae staff y GIG yn haeddu cyflog teg ac amodau gwaith diogel.

“Rwyf wedi gweld cynnydd yn y gwaith achos rwy’n ei dderbyn gan etholwyr sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng hwn ar draws y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, sef Gorllewin De Cymru. Ac mae hyn yn rhan o broblem genedlaethol ehangach sydd yn dwyshau.

“Gan fod y Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn methu â mynd i’r afael â’r argyfwng hwn, a’r Torïaid yn San Steffan yn benderfynol o dorri gwasanaethau cyhoeddus, mae Plaid Cymru wedi camu i’r adwy i gynnig atebion a fyddai’n darparu tegwch i weithwyr y GIG ac yn creu gwasanaeth iechyd a gofal gwydn ac addas ar gyfer y dyfodol. Dyna beth fyddai ein cynllun pum pwynt yn ei gyflawni.”

“Mae'r berthynas rhwng iechyd a thlodi yn un sydd wedi ei derbyn ers tro. Yn ystod y ddadl, trafodais sut mae amddifadedd yn achosi afiechyd ac anghydraddoldebau iechyd, gan gynyddu’r pwysau ar wasanaethau iechyd.

“Mewn cyfnod o gyfyngder economaidd, ac adeg o lefelau difrifol o dlodi yng Nghymru, mae’r angen i flaenoriaethu mesurau iechyd ataliol felly'n fater brys. Mae tlodi ac anghydraddoldeb yn faterion trawslywodraethol. Wrth fynd i’r afael ag argyfwng y GIG, rhaid i Lywodraeth Cymru roi ystyriaeth lawn i’r gwahaniaethau yn y cyfleoedd sydd gan bobl i fyw bywydau iach.”

Mae'r Cynllun 5 pwynt yn anelu at wella:

  1. Tâl: Darparu bargen deg i weithwyr y GIG er mwyn creu’r sylfeini ar gyfer gwasanaeth iechyd a gofal cynaliadwy.
  2. Cadw’r Gweithlu: Gwneud ein GIG yn lle deniadol i weithio ynddo.
  3. Atal: Ehangu’n sylweddol y pwyslais a’r flaenoriaeth a roddir i fesurau iechyd ataliol.
  4. Rhyngweithio Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Mabwysiadu agwedd gynaliadwy i sicrhau symudiad di-dor o ofal iechyd i ofal cymdeithasol.
  5. Achub ein gwasanaeth: Creu gwasanaeth iechyd a gofal gwydn sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Gwyliwch glip o araith Sioned

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd