Bore Coffi Macmillan yn Swyddfa Castell-nedd

Diolch enfawr i bawb a ddaeth i'm bore coffi er budd Cymorth Canser Macmillan yn fy swyddfa yng Nghastell-nedd ddiwedd mis Medi. 

Roedd yn wych sgwrsio â rhai o’n cymdogion fel Cyfarwyddwr CVS Castell-nedd Port Talbot Gaynor Richards, a chynrychiolwyr o Grŵp JGR a grwpiau cymunedol fel Forward4Fairyland a F.A.N Community Alliance. 

Nid yn unig y daethom i adnabod ein gilydd yn well, ond llwyddwyd i godi bron i £100 ar gyfer cymorth canser! 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd