Galw am ‘wahardd cŵn o gaeau chwaraeon’

Mae’r Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, Sioned Williams, heddiw wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyrff ledled Cymru i wahardd cŵn o gaeau chwaraeon, yn dilyn achosion diweddar o anafiadau erchyll a achoswyd i chwaraewyr gan heintiau o faw cŵn ar gaeau.

Fe gysylltodd cynghorwyr lleol Plaid Cymru dros Drebannws yng Nghwm Tawe â Sioned Williams AS sy’n ymgyrchu ar y mater, yn dilyn achos diweddar o chwaraewr rygbi ifanc a ddioddefodd anaf difrifol ym Mhontardawe o ganlyniad i haint a achoswyd gan faw cŵn.

Galwodd yr AS Plaid Cymru heddiw ar Lywodraeth Cymru i wneud “popeth o fewn ei gallu” i weithio gyda chyrff ledled Cymru i gefnogi pob cam ymarferol ac archwilio llwybrau cyfreithiol neu ddeddfwriaethol posibl y gallent eu cymryd i helpu i atal baw cŵn mewn gaeau chwaraeon ac atal anafiadau o’r fath hon rhag ddigwydd i eraill.

Er bod cynghorau tref yn gallu cyflwyno gwaharddiadau o’r math hwn – ac mae Cyngor Tref Pontardawe eisoes wedi cyflwyno gwaharddiad ar gŵn mewn caeau chwaraeon y mae gan Cyngor Tref reolaeth drostynt – nid oes ganddynt unrhyw bwerau gorfodaeth ar hyn o bryd, yn wahanol i gynghorau sir, sy’n gallu cyflwyno Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPOs).

Ym mis Chwefror eleni, aeth Evan Davies, chwaraewr rygbi 15 oed o Dîm Iau Clwb Rygbi Trebannws, i Uned Mân Anafiadau Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ar ôl iddo weld chwydd mawr, anarferol ar ei grimog dde a theimlad cleisiol am ychydig wythnosau yn yr un ardal. Daeth i’r amlwg ei fod yn dioddef o lid yr isgroen a rhoddwyd gwrthfiotigau iddo.

Dridiau'n ddiweddarach, gwelodd feddyg teulu ar gyfer crawniad a oedd wedi datblygu o ganlyniad i'r haint a rhoddwyd mwy o wrthfiotigau iddo, ond ddeuddydd yn ddiweddarach bu'n rhaid iddo gael ei dderbyn i Ysbyty Treforys ar ôl i'r crawniad fyrstio, a chafodd ddwy lawdriniaeth o dan anesthetig cyffredinol, gan gynnwys impiad croen gan fod y clwyf mor ddwfn.

Dywedodd Sioned Williams, AS dros Orllewin De Cymru:

“Mae gormod o achosion wedi bod o chwaraewyr rygbi a phêl-droed yn dioddef heintiau ac anafiadau erchyll fel yn yr achos hwn o ganlyniad i gŵn yn bawio ar gaeau. O ystyried y niwed ofnadwy a pharhaol y gall hyn ei achosi, credaf y dylid gwneud mwy i fynd i’r afael â’r mater.

“Fodd bynnag, pan ysgrifennais at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt roi trefn ar hyn, cefais fy siomi gan eu hateb. Fe gyfeirion nhw at ymgyrch codi ymwybyddiaeth, a dywedon nhw bod gan Awdurdodau Lleol y gallu i wahardd cŵn o ardaloedd cyhoeddus penodol. Er bod hyn i’w groesawu, a bod rhai awdurdodau lleol wedi gosod gwaharddiadau, mae llawer o gaeau chwaraeon yn cael eu prydlesu gan glybiau gan gynghorau tref a chymuned er enghraifft, felly rwy’n credu bod angen i’r Llywodraeth ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â phob lefel o lywodraeth leol, cyrff cyhoeddus a sefydliadau i edrych ar sut y gellid cyflawni gwaharddiad Cymru gyfan ar gŵn o’n meysydd chwaraeon.

“Dylai pawb allu cymryd rhan mewn chwaraeon heb orfod poeni am y math hwn o risg.”

Dywedodd Jamie Watkins, Cadeirydd Adran Iau Clwb Rygbi Trebannws, a Chynghorydd Tref Plaid Cymru dros Drebannws:

“Rhaid i ni wneud mwy i amddiffyn ein chwaraewyr rhag niwed sylweddol fel hyn. Hyd yn oed nawr, mae rhai o effeithiau'r anaf yn yr achos hwn yn debygol o fod yn barhaol. Mae gan Evan graith ddofn, y bydd yn rhaid iddo sicrhau ei bod wedi'i phadio'n ddwfn cyn unrhyw chwaraeon cyswllt, ac mae mewn perygl o ddatblygu llid ar yr isgroen unwaith eto yn yr un ardal. Mae angen cymryd y mater hwn o ddifrif ac mae angen gwahardd cŵn o’n caeau chwaraeon.”

Yn ogystal â chario chwilod niweidiol a all arwain at haint, asthma a hyd yn oed dallineb, gall pob math o lyngyr a bacteria fyw yn y pridd ymhell ar ôl i faw cŵn bydru.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd