“Dylai mynd i’r afael â thlodi plant fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Lafur Cymru - fe fyddai i Blaid Cymru” – Sioned Williams AS
Mae Plaid Cymru wedi taro'n ôl yn sgil cynlluniau Llywodraeth Lafur Cymru i gyfyngu ar eu cynllun Bwndeli Babanod.
Cafodd y cynllun, a gafodd ei dreialu yn Abertawe, ganmoliaeth eang am y ffaith ei fod ar gyfer pawb, rhywbeth a alwai Llywodraeth Cymru yn "bwynt allweddol" o'r rhaglen.
Fodd bynnag, yn y cyhoeddiad cyllidebol (dydd Mawrth 19 Rhagfyr), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai £3.5m yn cael ei dorri o'r rhaglen, ac ni fyddai'r cynnig yn un cyffredinol mwyach.
Mae hyn yn wahanol i argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a nododd ym mis Tachwedd bwysigrwydd "cefnogaeth gyffredinol gref" yn y blynyddoedd cynnar, a nod rhaglen yn yr Alban hefyd yw ymgysylltu rhieni â gwasanaethau.
Ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth yr Alban Gynllun "Blwch Babanod" sydd ar gael i bob plentyn newydd-anedig yn yr Alban.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, Sioned Williams AS:
“O ganu ei glodydd, i gyfyngu ar eu huchelgais yn sylweddol, mae tro pedol Llywodraeth Cymru ar y cynllun bwndel babi llwyddiannus yn hynod siomedig.
“Roedd canmoliaeth eang i'r cynllun peilot yn Abertawe i’w chlywed ar draws y Senedd, ac mae'n hysbys bod manteision ymyriadau cynnar yn hanfodol wrth fynd i'r afael â thlodi plant. Mae'n siomedig iawn felly y bydd cyfyngiadau'n cael eu gosod ar ba fabanod sy'n gymwys. Gwyddom fod llawer o deuluoedd nad ydynt yn gymwys i gael llawer o fathau o gymorth yn dal i gael trafferth talu am eitemau bob dydd, felly bydd yn hanfodol deall pwy fydd yn colli allan.
“O ran mynd i'r afael â thlodi plant, rhaid i ddull Llywodraeth Cymru fod yn fwy strategol. Gyda'r oedi i'r strategaeth tlodi plant, dileu prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau, a nawr y cyfyngiadau sy'n cael eu gosod ar ba fabanod fydd yn gymwys i gael Bwndel Babanod, mae eu record wael yn siarad drosto eu hunain.
“Mae llywodraethu yn ymwneud â blaenoriaethau, a phan gyfyngir ar gyllid, mae'n bwysicach fyth sicrhau bod yr arian sydd ar gael yn cael ei wario'n effeithiol. Barn Plaid Cymru yw y dylai mynd i'r afael â thlodi plant fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon – byddai’n flaenoriaeth i ni.”