Mae cymuned wedi dod at ei gilydd i ailsefydlu "llyfrgell sy'n cynnig mwy na dim ond gwasanaeth benthyca llyfrau".
Daeth cynrychiolwyr cymunedol Ystalyfera a'r cylch draw i agoriad swyddogol y llyfrgell gymunedol newydd yn Neuadd Gymunedol Ystalyfera ddydd Llun 25 Mawrth 2024.
Maer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Chris Williams, gafodd y fraint o dorri'r rhuban yn swyddogol i nodi agor Llyfrgell Gymunedol Ystalyfera ym mhresenoldeb y Faeres Debbie Rees, Sioned Williams AS, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, a'r Cynghorydd Alun Llewelyn, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chynghorydd Bwrdeistref Sirol ward Cwmllynfell ac Ystalyfera.
Bydd drysau'r llyfrgell ar agor i'r cyhoedd bob dydd Llun rhwng 10.30am a 4pm o 8 Ebrill 2024 ymlaen, gyda stoc o lyfrau o wasanaeth llyfrgell Castell-nedd Port Talbot.
Bydd y llyfrgell ei hun yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr Pathfinders Cymru, elusen o Ystalyfera sy'n darparu cymorth a chyfleoedd i deuluoedd â phlentyn neu berson ifanc ag anableddau dysgu.
Mae'r elusen wedi cynnal clybiau gwyliau'r haf yn y gorffennol ar gyfer plant â galluoedd cymysg, a'u nod yw cynnig cyfle i bobl ifanc ag anableddau dysgu gymysgu â'u cymuned trwy weithgareddau sydd ar gael i bawb. Mae darparu cyfleoedd i wirfoddoli yn y llyfrgell yn un o'r ffyrdd o wneud hyn, yn ôl Pathfinders Cymru.
Dywedodd Sioned Williams AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Roedd hi'n hyfryd gweld y llyfrgell yn ailagor yn Ystalyfera, diolch i ymdrechion anhygoel tîm Pathfinders Cymru. Mae eu gwaith yn cefnogi teuluoedd â phlentyn anabl yn arloesol, eisoes yn cael ei werthfawrogi gan lawer yn yr ardal a bellach yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli go iawn i bobl ifanc ag anableddau dysgu.
“Mae'n amlwg bod y llyfrgell yn fwy na gwasanaeth benthyca llyfrau yn unig, gyda'i gwasanaeth argraffydd 3d a benthyca adnoddau, ac mae cymaint o bethau i ddod â'r gymuned ynghyd. Roedd y brwdfrydedd a ddangoswyd ar gyfer y llyfrgell newydd yn amlwg i bawb, a hoffwn ddymuno pob lwc i Erika, Bethan a'r tîm cyfan yn y fenter ddiweddaraf hon.”
Dywedodd y Cynghorydd Alun Llewelyn, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot:
“Llongyfarchiadau i'r gwirfoddolwyr a phawb sy'n cymryd rhan am eu gwaith caled yn adnewyddu'r llyfrgell gymunedol yn Ystalyfera. Mae'n wych gweld y silffoedd eisoes yn llawn llyfrau newydd sbon, a diolch i'r cysylltiad â gwasanaethau llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot, bydd pobl leol yn gallu archebu unrhyw lyfr sydd ar gael drwy'r gwasanaeth hwn.
“Mae'r neuadd a'i llyfrgell newydd yn gaffaeliad gwirioneddol i'r gymuned, a hoffwn ddiolch i Gyngor Cymuned Ystalyfera, y Gronfa Ffyniant Gyffredin, y Loteri Genedlaethol a gwasanaethau llyfrgell Castell-nedd Port Talbot am helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd."