logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > Gwaith Achos

Gwaith Achos

Fel un o Aelodau lleol y Senedd dros Frycheiniog Tawe Nedd, rwy'n addo bod yn llais cryf i chi. Gallwch gysylltu â mi ynglŷn ag amrywiaeth o faterion gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, yr amgylchedd, addysg, tai a diogelwch cymunedol. Os ydych chi’n cael trafferth gydag unrhyw beth, defnyddiwch y manylion isod a byddwn yn gwneud ein gorau glas i helpu neu eich tywys i'r cyfeiriad cywir at wybodaeth a chymorth arbenigol.

Cymorth ac arweiniad

Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch, llenwch y ffurflen isod fel y gall aelod o'm tîm gysylltu â chi i drefnu'r camau nesaf, a all gynnwys ymgynghoriad dros y ffôn neu gyfarfod wyneb yn wyneb â gweithiwr achos yn fy swyddfa etholaeth. Nodwch mai trwy apwyntiad yn unig y cynhelir cyfarfodydd yn fy swyddfa etholaeth.

Ffurflen Gwaith Achos a Caniatâd Data (GDPR)

Cymorthfeydd Cyngor Cymunedol

Rwy'n cynnal cymorthfeydd cymunedol, lle gall fy etholwyr wneud apwyntiad i'm gweld wyneb yn wyneb. Bydd y rhain mewn gwahanol leoliadau ledled Brycheiniog Tawe Nedd, a byddaf yn rhannu manylion y rhain ar fy nghyfryngau cymdeithasol. Fel arall, gallwch gysylltu â'm swyddfa i ddarganfod pryd a lle fydd fy nghymhorthfa cyngor cymunedol nesaf. Dim ond trwy apwyntiad yn unig y bydd modd mynychu  y rhain.

Arolwg Cymunedol

Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi ynglŷn â'ch cymuned a sut y gallaf helpu, llenwch yr holiadur byr hwn neu cysylltwch â'm swyddfa i gael cymorth.

Arolwg Cymunedol

Map o De Cymru gyda Brycheiniog Tawe Nedd wedi'i amlygu

Ddim yn un o etholwyr Brycheiniog Tawe Nedd?

Fel Y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, mae'n rhaid i rywfaint o'm gwaith fynd drwy fy swyddfa weinidogol nawr. Os ydych chi'n cysylltu ynglŷn ag unrhyw beth sy'n gysylltiedig â'm cyfrifoldebau Gweinidogol, rwy'n dal yma i'ch cefnogi, ac mae hyn yn helpu i sicrhau bod eich ymholiad yn cyrraedd y tîm cywir yn gyflym. Anfonwch eich cais at:

Gohebiaeth.Sioned.Williams@llyw.cymru

Gallwch ysgrifennu at y gweinidog i’r cyfeiriad isod. Peidiwch ag anfon copïau caled o e-byst. Bydd llythyrau a dderbynnir drwy’r post yn cael eu hateb. ond gallai gymryd mwy o amser inni ateb llythyrau a dderbynnir drwy’r post. Byddwn yn ymateb drwy e-bost pan fo’n bosibl, felly efallai yr hoffech ysgrifennu atom drwy e-bost.

Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Llywodraeth Cymru
5ed Llawr
Tŷ Hywel
Bae Caerdydd
CF99 1SN

Sioned Williams - Llywodreath Cymru