logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Newyddion > Mae 4 o bob 5 busnes lleol yn teimlo nad ydynt yn cael cefn

Mae 4 o bob 5 busnes lleol yn teimlo nad ydyn nhw'n cael cefnogaeth ddigonol yn ôl arolwg

23.03.2026

 Mae arolwg Sioned Williams AS i berchnogion busnesau bach  yn datgelu mai costau cynyddol, a diffyg cefnogaeth yw'r heriau mwyaf 

Mae arolwg Sioned Williams AS i berchnogion busnesau bach  yn datgelu mai costau cynyddol, a diffyg cefnogaeth yw'r heriau mwyaf

Mae arolwg a gynhaliwyd gan Sioned Williams AS i brofiadau perchnogion busnesau bach lleol a masnachwyr unigol yng Ngorllewin De Cymru wedi datgelu bod 83% yn teimlo nad ydyn nhw'n cael digon o gefnogaeth. 

Yn ogystal, dywedodd 64% o'r ymatebwyr mai eu her fwyaf oedd costau cynyddol. 

Yn y Senedd ar ddydd Mawrth 17 Mawrth, gofynnodd Sioned Williams AS i'r Prif Weinidog a yw hi'n credu bod angen i'r gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth Cymru fynd ymhellach. Tynnodd sylw at enghreifftiau o fusnesau newydd yng Nghanol Tref a Marchnad Castell-nedd sydd, meddai, yn "cyfrannu'n aruthrol at ein cymunedau a'n lles". 

Cadarnhaodd y Prif Weinidog, ar ôl buddsoddi yn rhaglen Trawsnewid Trefi, fod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwerthusiad o'r rhaglen. 

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd dros Orllewin De Cymru: 

“Mae busnesau bach wedi dweud wrthyf drwy fy arolwg nad ydyn nhw’n cael digon o gefnogaeth, cyngor na gwybodaeth gan lywodraeth. Ynghyd â hyn, rydyn ni’n gwybod bod gan Gymru rai o’r lefelau isaf o ymwelwyr yng nghanol ei threfi. 

“Yng Nghastell-nedd, lle rydw i wedi bod yn gweithio yn fy swyddfa ers cael fy ethol, rydw i wedi bod wrth fy modd yn croesawu busnesau newydd i ganol y dref, yn enwedig ers colli rhai busnesau a elwir yn ‘siopau angor’ fel Marks and Spencer. Ond rydw i’n clywed pa mor anodd yw hi i fusnesau bach gystadlu yn erbyn y busnesau mwy, sy’n gallu amsugno costau cynyddol yn well. 

“Bob dydd, mae busnesau bach lleol ledled Cymru yn cyfrannu’n aruthrol at ein heconomi ac at ein cymunedau a’n lles ni gyd. Hoffwn weld mwy o gefnogaeth i sicrhau y gall busnesau bach, annibynnol, lleol yn ein strydoedd mawr ffynnu.” 

Mae fy arolwg yn dal ar agor i chi ei gwblhau os ydych chi'n berchennog busnes bach lleol

Linc i'r arolwg

Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.

Yn ôl