Mae Sioned Williams AS yn lansio arolwg ar gyfer perchnogion busnesau bach
09.01.2026
Galwad ar unig fasnachwyr a pherchnogion busnesau bach i ddweud eu dweud ar ba gymorth sydd ei angen arnynt
Mae Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi lansio arolwg ar gyfer unig fasnachwyr a pherchnogion busnesau bach.
Mae'r arolwg, (dolen isod), yn rhoi cyfle i unig fasnachwyr a pherchnogion busnesau bach lleol i fanylu ar ba heriau maen nhw'n eu hwynebu, beth sy'n gweithio a beth sydd ddim, a pha gefnogaeth yr hoffent ei weld.
Mae busnesau bach yn cyfrif am dros 95% o'r holl fusnesau yng Nghymru, ac maent yn darparu dros 60% o'r holl swyddi yn ein cymunedau.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Orllewin De Cymru:
“Mae busnesau bach nid yn unig yn cynnig y nwyddau a'r gwasanaethau rydyn ni i gyd yn dibynnu arnynt, maen nhw'n aml hefyd yn noddi ein timau chwaraeon lleol, yn codi arian ar gyfer elusennau lleol, ac yn ychwanegu at gymeriad lle rydyn ni'n byw.
“Pan fyddwn yn siarad am yr angen i'n canol trefi ffynnu, a bod llawer o'r siopau mawr 'angor' yn gadael ein strydoedd mawr, ein busnesau bach lleol sydd yn eu cadw'n fyw.
“Ond ar strydoedd mawr ar draws trefi yn y rhanbarth hwn - o Ben-y-bont ar Ogwr i Gastell-nedd i Abertawe - mae adeiladau gwag a siopau wedi'u cau lle gallai busnesau lleol ffyniannus fod. Ynghyd â hyn, mae tafarndai, caffis a bwytai oll yn cael trafferth gyda’r argyfwng costau gwneud busnes.
“Er bod gan gymunedau yng ngweddill y DG gefnogaeth i fod yn berchen ar eu cyfleusterau lleol a mynd i'r afael ag eiddo gwag yng nghanol ein trefi - nid oes gan Gymru y gallu hwn ar hyn o bryd. Mae hawl gymunedol i brynu yng Nghymru yn rhywbeth yr hoffwn ei weld, ynghyd â diwygio ardrethi busnes i gefnogi ein perchnogion busnesau bach yn well.
“Rwy'n gwybod pa mor anodd yw hi i'n busnesau bach. Dyna pam rydw i wedi lansio’r arolwg, fel y gall busnesau bach yn fy rhanbarth roi gwybod i mi beth sy'n gweithio a beth sydd angen newid.”
Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.