logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > Ein Cymuned > Ymweliad â Chanolfan Swyddi Castell-nedd

Ymweliad â Chanolfan Swyddi Castell-nedd

28.09.2026

Mae dau berson yn sefyll y tu allan i fynedfa swyddfa Canolfan Byd Gwaith o dan arwydd gwyrdd dwyieithog yn darllen “canolfan byd gwaith canolfan byd gwaith.” Mae gan yr adeilad ffenestri mawr â ffrâm las a drws agored. Mae arwydd glas sy'n nodi lleoliad diffibriliwr allanol awtomataidd (AED) wedi'i osod wrth ymyl y fynedfa, ac mae ardal gerddwyr wedi'i phalmantu â brics i'w gweld yn y blaendir.

Ces i gyfarfod yn ddiweddar gyda staff Canolfan Waith Castell-nedd i ddysgu mwy am sut maen nhw’n cefnogi trigolion lleol, gan gynnwys y rhaglenni amrywiol sydd ar gael, a’r rhwystrau sy’n gallu atal pobl rhag cael gwaith. Buom yn trafod dau her yn fanwl – trafnidiaeth, yn enwedig argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus ar ddechrau a diwedd y diwrnod gwaith, a gofal plant. Roeddwn yn falch i glywed am y cymorth y mae’r DWP yn ei gynnig i helpu i dalu costau cychwynnol neu gostau ymlaen llaw ar gyfer gofal plant i’r rhai sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ac a fyddai fel arall yn cael eu hatal rhag dechrau gweithio. Diolch i Rob a’r tîm am y cyfarfod defnyddiol.

Yn ôl