Preifatrwydd

Hyrwyddwyd gan Sioned Williams, 34 Stryd Alfred, Castell-nedd, SA11 1EH

Hysbysiad preifatrwydd I ETHOLWYR a CHYSYLLTIADAU ERAILL 

Rydw i, Sioned Williams yn Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru.

Un o fy rolau allweddol fel Aelod o'r Senedd yw codi materion ar ran etholwyr ac ymgysylltu â chysylltiadau eraill mewn perthynas ag ystod o faterion sy'n berthnasol i'm rôl fel Aelod o'r Senedd. Felly, fel rhan o'm rôl, byddaf yn aml yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud ag etholwyr a chysylltiadau eraill. O bryd i'w gilydd, byddaf hefyd yn cysylltu gydag arolygon er mwyn casglu gwybodaeth a barn am faterion sy'n berthnasol i'm rôl fel Aelod o’r Senedd.

Yn yr adrannau isod, wrth gyfeirio at etholwyr, byddaf yn defnyddio'r termau “chi” neu “eich”.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi gwybodaeth sy'n ymwneud â sut y byddaf yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ac yn nodi pa hawliau sydd gennych mewn perthynas â'ch gwybodaeth bersonol o dan gyfraith diogelu data.

Sut ydw i’n ymdrin â phreifatrwydd?

Mae sicrhau eich preifatrwydd yn eithriadol o bwysig i mi ac rwyf am i chi deimlo'n hyderus bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel yn fy nwylo i.

Dim ond o bryd i’w gilydd, yn ôl y gyfraith diogelu data sy'n gymwys i Gymru a Lloegr, y byddaf yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

O dan y gyfraith diogelu data, pan ddefnyddiaf eich gwybodaeth bersonol, byddaf yn gweithredu fel rheolwr data. Yn y bôn, mae hyn yn golygu y byddaf yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol a pham.

  • Sut y byddaf yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol?

Nodir isod sut y byddaf yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, y seiliau cyfreithiol y byddaf yn dibynnu arnynt, pa mor hir y byddaf yn cadw eich gwybodaeth bersonol a manylion eraill.

GWAITH ACHOS AC YMGYSYLLTU DEMOCRATAIDD

Pa wybodaeth bersonol y byddaf yn ei defnyddio

Eich enw, manylion cyswllt (cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, rhif yswiriant gwladol, rhif trwydded yrru neu wybodaeth arall sy’n berthnasol i’ch achos ac ati);

Gwybodaeth a roddwyd amdanoch wrth godi mater neu bryder gyda mi. Gall y wybodaeth hon gynnwys gwybodaeth bersonol categori arbennig fel eich tarddiad hil neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb lafur, iechyd corfforol neu feddyliol (gan gynnwys manylion am unrhyw anabledd), neu gyfeiriadedd rhywiol. Gall hefyd gynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud ag euogfarnau troseddol neu unrhyw drosedd a gyflawnwyd neu drosedd honedig.

Unrhyw farn a roddwch (gan gynnwys barn wleidyddol) mewn ymateb i unrhyw arolwg neu ymarfer casglu gwybodaeth.

Sut y byddaf yn cael y wybodaeth bersonol

Caiff ei rhoi gennych chi pan fyddwch yn cysylltu â mi gydag ymholiad neu bryder neu gan drydydd parti pan godir yr ymholiad neu'r pryder ar eich rhan.

At ba ddibenion y byddaf yn defnyddio'r wybodaeth bersonol

Byddaf yn defnyddio eich enw, eich cyfeiriad a'ch manylion cyswllt eraill i gyfathrebu â chi ynghylch y mater neu'r pryder a godwyd ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ac adborth i chi.

Byddaf yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i symud eich mater neu eich pryder yn ei flaen a chymryd camau i fynd i'r afael ag ef.

Byddaf yn defnyddio eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eraill i gynnal arolygon a chasglu gwybodaeth a barn i lywio ac arfarnu fy ngwaith fel eich Aelod o'r Senedd.

Sylwer na fyddaf yn rhannu unrhyw ran o'r wybodaeth bersonol a roddir gennych mewn gweithgareddau ymgysylltu a ariennir gan Gomisiwn y Senedd at ddibenion pleidiol gwleidyddol neu ymgyrchu.

Y seiliau cyfreithiol rwy'n dibynnu arnynt ar gyfer prosesu gwybodaeth

Mae fy nefnydd o'ch gwybodaeth bersonol mewn cysylltiad â'r dibenion a nodir uchod yn angenrheidiol er mwyn ymgymryd â thasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i mi. Yn gyffredinol, y rheswm dros hyn yw y caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu gennyf wrth ymgymryd â gweithgarwch sydd, oherwydd ei natur, yn cefnogi neu'n hyrwyddo ymgysylltu democrataidd.

Lle mae eich mater neu eich pryder yn un sy'n cynnwys prosesu gwybodaeth bersonol categori arbennig, bydd angen i mi ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol categori arbennig am resymau er budd sylweddol y cyhoedd. Y rheswm dros hyn yw bod y gwaith prosesu’n cael ei wneud gennyf yn fy swydd fel cynrychiolydd etholedig, mewn cysylltiad ag ymgymryd â'm swyddogaethau ac mae'n ymateb i gais gennych chi i weithredu neu gais ar eich rhan.

Os bydd unrhyw farn (gan gynnwys barn wleidyddol) a roddwch mewn ymateb i unrhyw arolwg neu ymarfer casglu gwybodaeth yn cynnwys prosesu gwybodaeth bersonol categori arbennig, bydd fy nefnydd o'ch gwybodaeth bersonol categori arbennig yn angenrheidiol am resymau er budd sylweddol i’r cyhoedd mewn perthynas â'm gweithgareddau gwleidyddol, sef arolygon gwleidyddol.

Am ba hyd y byddaf yn cadw'r wybodaeth bersonol a pham y byddaf yn ei chadw

Byddaf yn cadw eich gwybodaeth bersonol nes i'ch achos gael ei gau ac am gyfnod arall o 5 o flynyddoedd, neu tan etholiad nesaf Senedd Cymru, pa un bynnag sydd gyntaf. Y rheswm dros hyn yw  oherwydd gellir ei ddefnyddio i gyfeirio ato os bydd materion pellach yn codi.

CYLCHLYTHYRAU A MARCHNATA UNIONGYRCHOL

Pa wybodaeth bersonol y byddaf yn ei defnyddio

Eich enw, manylion cyswllt (cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac ati).

Sut y byddaf yn cael y wybodaeth bersonol

Wedi'i ddarparu gennych chi neu wedi'i gael o'r Gofrestr Etholiadol.

At ba ddibenion y byddaf yn defnyddio'r wybodaeth bersonol

Rhoi cylchlythyrau a diweddariadau i chi am y gwaith rwy'n ei wneud yn eich ardal chi ac yn Senedd Cymru.

Y seiliau cyfreithiol rwy'n dibynnu arnynt ar gyfer prosesu gwybodaeth

Ar gyfer cyfathrebiadau electronig, rydych wedi rhoi eich caniatâd.

Ar gyfer cyfathrebu ar wahân i ddulliau electronig, mae fy nefnydd o'ch gwybodaeth bersonol yn angenrheidiol er mwyn ymgymryd â thasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i mi. Y rheswm dros hyn yw y caiff gwybodaeth bersonol ei phrosesu gennyf er mwyn cyfathrebu ag etholwyr wrth ymgymryd â gweithgarwch sy’n cefnogi neu'n hyrwyddo ymgysylltu democrataidd.

Am ba hyd y byddaf yn cadw'r wybodaeth bersonol a pham y byddaf yn ei chadw

Pan fyddaf yn prosesu eich gwybodaeth bersonol i gyfathrebu am resymau marchnata uniongyrchol, byddaf yn cadw eich gwybodaeth bersonol oni bai a nes y byddwch yn rhoi gwybod i mi nad ydych am gael marchnata uniongyrchol gennyf mwyach. Gallwch ofyn imi roi'r gorau i anfon yr ohebiaeth hon atoch ar unrhyw adeg drwy gysylltu â mi [email protected]ymru  

 

CYSYLLTIADAU ERAILL

Byddaf yn casglu ac yn prosesu manylion cyswllt unigolion (gan gynnwys: cynghorwyr, grwpiau cymunedol, sefydliadau, cysylltiadau grŵp, a rhanddeiliaid eraill) yr wyf yn gweithio gyda hwy ar faterion penodol er mwyn symud achosion etholwyr yn eu blaen a gweithgareddau eraill sy'n cefnogi neu'n hyrwyddo ymgysylltu democrataidd.

Pa wybodaeth bersonol y byddaf yn ei defnyddio

Eich enw, manylion cyswllt (cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac ati).

[Gall y wybodaeth a roddir hefyd gynnwys gwybodaeth bersonol categori arbennig fel eich barn wleidyddol.]

[Unrhyw farn a roddwch (gan gynnwys barn wleidyddol) mewn ymateb i unrhyw arolwg neu ymarfer casglu gwybodaeth.]

Sut y byddaf yn cael y wybodaeth bersonol

Caiff ei rhoi gennych chi pan fyddwch yn cysylltu â mi, neu byddaf yn ei chymryd o’r parth cyhoeddus.

At ba ddibenion y byddaf yn defnyddio'r wybodaeth bersonol

I gael cyngor a chymorth wrth ymdrin ag achos; i symud materion yn eu blaen; i roi gwybod i chi am wybodaeth berthnasol; ac i ymgymryd â gweithgareddau eraill sy'n cefnogi neu'n hyrwyddo ymgysylltu democrataidd [(er enghraifft arolygon gwleidyddol].

[Rhoi cylchlythyrau a diweddariadau i chi am y gwaith rwy'n ei wneud yn Senedd Cymru.]

Y seiliau cyfreithiol rwy'n dibynnu arnynt ar gyfer prosesu gwybodaeth

Mae fy nefnydd o'ch gwybodaeth bersonol mewn cysylltiad â'r dibenion a nodir uchod yn angenrheidiol er mwyn ymgymryd â thasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i mi. Yn gyffredinol, y rheswm dros hyn yw y caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu gennyf wrth ymgymryd â gweithgarwch sydd, oherwydd ei natur, yn cefnogi neu'n hyrwyddo ymgysylltu democrataidd.

[Pan fyddaf yn prosesu eich gwybodaeth bersonol categori arbennig, bydd angen i mi ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol categori arbennig am resymau er budd sylweddol y cyhoedd. Y rheswm am hyn yw bod angen prosesu’r wybodaeth mewn cysylltiad ag ymgymryd â’m swyddogaethau ac mae’n ymateb i gais gan unigolyn, neu ar ran unigolyn, i weithredu ar ei ran.]

Os bydd unrhyw farn (gan gynnwys barn wleidyddol) a roddwch mewn ymateb i unrhyw arolwg neu ymarfer casglu gwybodaeth yn cynnwys prosesu gwybodaeth bersonol categori arbennig, bydd fy nefnydd o'ch gwybodaeth bersonol categori arbennig yn angenrheidiol am resymau er budd sylweddol i’r cyhoedd mewn perthynas â'm gweithgareddau gwleidyddol, sef arolygon gwleidyddol.]

Am ba hyd y byddaf yn cadw'r wybodaeth bersonol a pham y byddaf yn ei chadw

Byddaf yn cadw eich gwybodaeth bersonol nes bod yr achos y mae’n gysylltiedig ag ef yn cael ei gau ac am gyfnod arall o 5 o flynyddoedd, neu tan etholiad nesaf Senedd Cymru, pa un bynnag sydd gyntaf. Y rheswm dros hyn yw  oherwydd gellir ei ddefnyddio i gyfeirio ato os bydd materion pellach yn codi.

Pan fyddaf yn prosesu eich gwybodaeth bersonol i gyfathrebu am resymau marchnata uniongyrchol, byddaf yn cadw eich gwybodaeth bersonol oni bai a nes y byddwch yn rhoi gwybod i mi nad ydych am gael marchnata uniongyrchol gennyf mwyach. Gallwch ofyn imi roi'r gorau i anfon yr ohebiaeth hon atoch ar unrhyw adeg drwy gysylltu â mi [email protected]

 

PRYD Y BYDDAF YN RHANNU EICH GWYBODAETH BERSONOL AG ERAILL?

O bryd i’w gilydd, bydd angen i mi rannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill. Mae'r adran hon yn nodi manylion pwy y byddaf yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â hwy a pham. Mae hefyd yn dweud wrthych am fy sail gyfreithiol dros wneud hynny o dan y gyfraith diogelu data a chamau y byddaf yn eu cymryd i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol.

Sylwer na fyddaf yn rhannu unrhyw ran o'r wybodaeth bersonol a roddir gennych mewn gweithgareddau ymgysylltu a ariennir gan Gomisiwn y Senedd at ddibenion pleidiol gwleidyddol neu ymgyrchu.

COMISIWN Y SENEDD

Gwybodaeth am ein perthynas â Chomisiwn y Senedd

Comisiwn y Senedd yw'r corff annibynnol sydd, ymhlith pethau eraill, yn cefnogi Aelodau'r Senedd yn eu gwaith.

Pam mae angen i mi rannu eich gwybodaeth bersonol â staff Comisiwn y Senedd

I gael cyngor a chymorth wrth ymdrin â'ch mater neu eich pryder.

Y sail gyfreithiol rwy'n dibynnu arni wrth rannu eich gwybodaeth bersonol

Bydd angen rhannu gwybodaeth bersonol â staff Comisiwn y Senedd er mwyn ymgymryd â thasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i mi. Yn gyffredinol, y rheswm dros hyn yw y caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu gennyf wrth ymgymryd â gweithgarwch sydd, oherwydd ei natur, yn cefnogi neu'n hyrwyddo ymgysylltu democrataidd.

Pa ragofalon rwy'n eu cymryd?

Mae staff Comisiwn y Senedd wedi ymgymryd â hyfforddiant diogelu data ac maent yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelu gwybodaeth bersonol. Mae gan Gomisiwn y Senedd bolisïau a mesurau diogelu priodol ar waith i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol.

SEFYDLIADAU ERAILL A ALL HELPU GYDA'CH ACHOS

Pwy yw'r Sefydliadau hyn?

Byddaf yn rhannu eich gwybodaeth bersonol yn ôl yr angen â sefydliadau a all helpu gyda'ch achos. Yn aml, bydd y rhain yn sefydliadau megis awdurdodau lleol a byrddau iechyd a fydd, o bryd i'w gilydd, gan ddibynnu ar natur eich ymholiad neu eich pryder, yn gallu helpu gyda'ch achos neu bydd ganddynt wybodaeth sy'n berthnasol i'ch achos.

 

Pam mae angen i mi rannu eich gwybodaeth bersonol â nhw

I helpu gyda'ch achos neu i gael gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch achos.

Y seiliau cyfreithiol rwy'n dibynnu arnynt wrth rannu eich gwybodaeth bersonol

Bydd angen rhannu gwybodaeth bersonol â'r sefydliadau hyn er mwyn ymgymryd â thasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i mi. Yn gyffredinol, y rheswm dros hyn yw y caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu gennyf wrth ymgymryd â gweithgarwch gwaith achos sydd, oherwydd ei natur, yn cefnogi neu'n hyrwyddo ymgysylltu democrataidd.

Pa ragofalon rwy'n eu cymryd?

Dim ond yn ôl yr angen y byddaf yn rhannu gwybodaeth bersonol a byddaf yn cymryd camau i wneud y sefydliadau'n ymwybodol o bwysigrwydd diogelu gwybodaeth bersonol.

DARPARWYR GWASANAETHAU TECHNOLEG GWYBODAETH

 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol?

Seilwaith TGCh Comisiwn y Senedd, sy'n cynnwys gwasanaeth cwmwl a ddarperir gan Microsoft;

Meddalwedd rheoli achosion: Caseworker CaseworkerGov (electedtechnologies.com)

Gwefan: https://www.sionedwilliams.cymru/

NationBuilder: Build the Future

Pam mae angen imi rannu eich gwybodaeth bersonol â’r darparwyr hyn

Rwy'n defnyddio cyflenwyr cynhyrchion a gwasanaethau technoleg gwybodaeth mewn cysylltiad â chyflenwi, cynnal a chadw a/neu wella fy rhwydwaith TG, er mwyn rheoli gwaith achos yn effeithiol trwy ddarparu meddalwedd briodol, a chreu, datblygu a chynnal a chadw fy ngwefan.

Y seiliau cyfreithiol rwy'n dibynnu arnynt wrth rannu eich gwybodaeth bersonol

O ran gohebiaeth electronig a anfonir atoch, rydych wedi rhoi eich caniatâd.

Ym mhob achos arall, rwy'n dibynnu ar fy muddiannau cyfreithlon wrth sicrhau bod fy ngwaith fel Aelod o’r Senedd yn cael ei reoli'n effeithlon, y gall fy system TG weithredu'n briodol ac yn effeithlon, a bod fy rhwydwaith TG yn ddiogel.

Pa ragofalon rydym yn eu cymryd?

Rydw i neu Gomisiwn y Senedd (fel y bo’n briodol) yn ymrwymo i gontractau gyda’m darparwyr TG sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt roi mesurau diogelwch priodol ar waith ac sy'n cyfyngu ar eu defnydd o'ch gwybodaeth bersonol.

TRYDYDD PARTÏON ERAILL

Hefyd, gall fod angen i mi rannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill yn yr amgylchiadau a ganlyn:

Gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol

Yn achlysurol, gall fod angen i mi ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i sefydliadau megis y llysoedd neu'r heddlu er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol rydym yn ddarostyngedig iddynt a/neu er mwyn atal twyll neu drosedd.

Diogelu

Yn achlysurol, gall fod angen i mi ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i sefydliadau eraill, megis yr awdurdod lleol neu'r heddlu, at ddibenion diogelu er budd sylweddol y cyhoedd.

Cyngor proffesiynol a chamau cyfreithiol

Gall fod angen i mi ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i'm cynghorwyr proffesiynol (er enghraifft, cyfreithwyr a chyfrifwyr) mewn cysylltiad â'r cyngor proffesiynol a roddir ganddynt a/neu gadarnhau neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

[dylid cynnwys os yw'n Aelod o Grŵp yn y Senedd yn unig]

Arweinydd Grŵp

Efallai y bydd angen i mi ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i Arweinydd Grŵp fy mhlaid wleidyddol er mwyn cael cyngor a chymorth gan staff y Grŵp er mwyn mynd i’r afael â'ch mater neu bryder. Bydd angen rhannu gwybodaeth bersonol er mwyn ymgymryd â thasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i mi. Yn gyffredinol, y rheswm dros hyn yw y caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu gennyf wrth ymgymryd â gweithgarwch gwaith achos sydd, oherwydd ei natur, yn cefnogi neu'n hyrwyddo ymgysylltu democrataidd.

 

YMGYSYLLTU Â MI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Bydd unrhyw negeseuon neu sylwadau cyfryngau cymdeithasol a anfonwch (ar fy nhudalen Facebook, er enghraifft) yn cael eu rhannu o dan delerau'r llwyfan cyfryngau cymdeithasol perthnasol (e.e. Facebook neu Twitter) y maent wedi'u hysgrifennu arno a gallent fod yn gyhoeddus. Nid wyf yn rheoli'r llwyfannau hyn ac nid wyf yn gyfrifol am y math hwn o rannu. Cyn i chi wneud unrhyw sylwadau neu arsylwadau, dylech adolygu telerau ac amodau a pholisïau preifatrwydd y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwch. Drwy wneud hynny, byddwch yn deall sut y byddant yn defnyddio eich gwybodaeth, pa wybodaeth sy'n ymwneud â chi y byddant yn ei rhoi ar gael i'r cyhoedd, a sut y gallwch eu hatal rhag gwneud hynny os ydych yn anhapus yn ei gylch.

 

YM MHA AMGYLCHIADAU y byddaf yn anfon eich gwybodaeth bersonol y tu allan i'r DU

Heblaw am y gwasanaeth cwmwl a ddarperir gan Microsoft, nid wyf yn rhagweld y bydd angen anfon eich gwybodaeth bersonol y tu allan i'r DU. Mae Microsoft wedi rhoi contract ysgrifenedig ar waith i ymgorffori cymalau model yn ymwneud â throsglwyddo gwybodaeth bersonol y tu allan i'r DU, sy'n darparu mesurau diogelu er mwyn diogelu eich gwybodaeth bersonol.

Os bydd angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i'r DU mewn amgylchiadau eraill, byddaf yn rhoi gwybod i chi. Fodd bynnag, gallwch fod yn sicr, os bydd angen i mi drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i'r DU, y byddaf yn defnyddio un o'r mesurau diogelu hyn er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei diogelu:

  • Byddaf ond yn eu trosglwyddo wlad y tu allan i'r DU y mae llywodraeth y DU wedi penderfynu bod ganddi lefel ddigonol o ddiogelwch ar gyfer gwybodaeth bersonol. Gallwch ddod o hyd i fwy am wledydd o'r fath yma https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-data-protection/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/international-transfers-after-uk-exit/; neu
  • Byddaf yn rhoi contract ysgrifenedig ar waith rhyngof fi a'r derbynnydd sy'n ymgorffori cymalau model sy'n ymwneud â throsglwyddo gwybodaeth bersonol y tu allan i'r DU; neu
  • Byddaf yn cael eich caniatâd penodol i wneud hynny.

 

PA HAWLIAU SYDD GENNYCH O DAN Y GYFRAITH DIOGELU DATA?

O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych nifer o wahanol hawliau sy'n ymwneud â defnyddio'ch gwybodaeth bersonol sy’n berthnasol mewn amgylchiadau penodol. Yn gryno, yr hawliau hynny yw:

  • Hawl mynediad – hawl yw hwn i gael copi o'ch gwybodaeth bersonol sy'n cael ei phrosesu gennyf fi a rhywfaint o wybodaeth atodol ychwanegol.
  • Hawl i gael gwybodaeth bersonol anghywir wedi'i chywiro
  • Hawl i ddileu - hawl yw hwn, mewn rhai amgylchiadau, i'ch gwybodaeth bersonol gael ei dileu neu ei gwaredu.
  • Hawl i wrthwynebu - hawl yw hwn, mewn rhai amgylchiadau, i wrthwynebu'r defnydd o'ch gwybodaeth bersonol. Os ydych yn gwrthwynebu i mi ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer ymgyrchu gwleidyddol neu at ddibenion marchnata uniongyrchol, rhaid i mi roi’r gorau ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y modd hwn.
  • Hawl i gyfyngu ar brosesu - hawl yw hwn i rwystro neu atal eich gwybodaeth bersonol rhag cael ei phrosesu.
  • Gofynnwch am gludadwyedd data eich gwybodaeth bersonol - hawl yw hwn, mewn rhai amgylchiadau, i'w gwneud yn ofynnol i mi roi copi electronig o'ch gwybodaeth bersonol i chi naill ai at eich defnydd eich hun neu fel y gallwch ei rhannu â sefydliad arall.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau chi a'm rhwymedigaethau innau i'w gweld ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth https://ico.org.uk/.

Os ydych yn dymuno arfer unrhyw hawliau sydd gennych, gallwch wneud cais drwy gysylltu â mi yn [email protected]

Os ydych yn gwneud cais i arfer unrhyw hawliau sydd gennych, mae gennyf hawl i ofyn i chi roi unrhyw wybodaeth i mi y gall fod ei hangen fel y gallaf gadarnhau pwy ydych chi.

 

Eich hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl

Os ydych wedi rhoi eich caniatâd i mi ddefnyddio unrhyw ran o'ch gwybodaeth bersonol, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â [rhowch gyfeiriad e-bost perthnasol] neu drwy ddull arall a amlinellir isod.

 

Sut y gallwch chi gysylltu â MI?

Gallwch gysylltu â mi yn y ffyrdd a ganlyn:

Cyfeiriad post

34 Stryd Alfred, Castell-nedd, SA11 1EH

Cyfeiriad e-bost

[email protected]

Rhif ffôn

01639 203204

 

Fi yw'r sawl sy'n goruchwylio cydymffurfiaeth â’r gyfraith diogelu data a'r hysbysiad preifatrwydd hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei thrin neu os ydych am wneud cwyn, mae croeso i chi gysylltu â mi.

 

YR HAWL I GWYNO I swyddfa’r comisiynydd gwybodaeth

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rwy’n gallu ymdrin â’ch cwyn neu os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rwy'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol, mae gennych yr hawl hefyd i wneud cwyn ar unrhyw adeg i awdurdod goruchwylio'r DU ar gyfer materion diogelu data, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

 

NEWIDIADAU i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Caf ddiweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd. Os byddaf yn gwneud newidiadau sylweddol, byddaf yn rhoi hysbysiad preifatrwydd newydd i chi. Hefyd, caf roi gwybod i chi mewn ffyrdd eraill o bryd i'w gilydd am brosesu eich gwybodaeth bersonol.

Cyhoeddwyd y fersiwn hon o’r polisi preifatrwydd ar Mawrth, 21, 2022

Polisi preifatrwydd Plaid Cymru – the Party of Wales

Hwn yw ein polisi preifatrwydd. Mae ar gyfer pawb sy’n dod i gysylltiad â ni – etholwyr, aelodau, pobl ifanc a’r rhai sy’n rhoi arian i ni.

Mae’r polisi ar gael mewn ffurf arall megis ffont fras. Os ydych yn dymuno cael copi mewn ffurf arall, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data.

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn dangos ein hymrwymiad i amddiffyn eich gwybodaeth personol.

Byddwn bob tro yn prosesu’ch gwybodaeth personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Mae pleidiau gwleidyddol yn casglu gwybodaeth am farn wleidyddol pobl. Mae hwn yn berffaith iawn ac er budd i’r cyhoedd, cyn belled â bod eich data yn cael ei ddiogelu. Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma yn rhoi gwybodaeth i chi am sut ydym yn diogelu eich gwybodaeth personol.

Cysylltu â ni am eich hawliau gwybodaeth

Os ydych am ragor o wybodaeth am y ffordd rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth personol, neu i ddefnyddio’ch hawliau gwybodaeth, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn y ffyrdd canlynol.

Post:              Plaid Cymru, Tŷ Gwynfor, Llys Anson, Glanfa’r Iwerydd, CAERDYDD, CF10 4AL

Ebost:            [email protected]

Ffôn:              02920 472272

Y gwybodaeth rydym yn ei brosesu

Rydym yn prosesu gwybodaeth personol pob person ar gofrestr etholiadol Cymru. Rydym yn gwneud hwn er mwyn i ni ysgogi pobl i ymwneud â gwleidyddiaeth, yn ogystal â hybu ein gweledigaeth wleidyddol. Rydym yn prosesu’ch barn wleidyddol os ydych yn ei rhoi i ni yn uniongyrchol neu os ydynt ar gael yn gyhoeddus. Rydym hefyd yn prosesu gwybodaeth ar farn wleidyddol ein haelodau, ein cefnogwyr, ein gwirfoddolwyr a’r sawl sy’n rhoi arian i ni.

Ni fyddwn yn cyhoeddi’ch gwybodaeth (gan gynnwys eich barn wleidyddol) oni bod yn rhaid i ni wneud o dan y gyfraith.

Ni fyddwn fyth yn gwerthu’ch gywbodaeth i gwmniau eraill. Weithiau rydym yn rhannu’ch gwybodaeth gyda chmwniau sy’n ein helpu gyda’n gwaith, ond dim ond os bydd gennym yr hawl gyfreithiol i’w wneud. Er enghraifft, byddwn yn rhannu enwau a chyfeiriadau gyda’r cwmniau sy’n anfon ein taflenni etholiadol atoch.

Y gwybodaeth rydym yn ei gasglu

Etholwyr Cymru

Rydym yn derbyn copi o’r cofrestrau etholiadol o awdurdodau lleol Cymru. Mae’r cofrestrau yma’n rhoi’r gwybodaeth canlynol i ni.

  • Eich enw
  • Eich cyfeiriad
  • Eich dyddiad geni (os ydych yn 16, 17 neu’n 18)
  • Eich rhif cofrestr etholiadol (sy’n ein galluogi i wybod ble y byddwch yn pleidleisio mewn etholiadau a refferenda)
  • Os oes pleidlais post â chi
  • Os pleidleisioch mewn etholiad neu refferedwm (ond ddim i ba gyfeiriad y pleidleisioch)

Os ydym yn cysylltu â chi i ofyn am eich barn wleidyddol ac y byddwch yn rhoi’r gwybodaeth yna i ni, byddwch yn cofnodi’r gwybodaeth. Rydym yn gwneud hwn fel bo modd i ni:

  • Penderfynu a ddylem anfon ein deunydd ymgyrchu atoch chi;
  • Penderfynu pa ddeunydd ymgyrchu y dylem anfon atoch chi; a
  • Penderfynu a ydym yn credu eich bod yn debygol o bleidleisio, ac am ba blaid neu achos (mewn refferendwm)

Y sail gyfreithiol (rheswm) i ni brosesu’r gwybodaeth yw ‘tasg gyhoeddus’. Mae’r sail gyfreithiol yma yn galluogi pleidiau gwleidyddol i brosesu gwybodaeth personol. Gallwch ddarganfod mwy am hwn o’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Aelodau

Pan fyddwch yn ymuno, rydych yn rhoi eich enw a’ch manylion cyswllt. Rydym yn defnyddio’r gwybodaeth yma i roi ein gwasanaethau aelodaeth i chi. Rydym hefyd yn prosesu’ch manylion banc os byddwch yn eu rhoi i ni fel y byddwch yn gallu talu trwy ddebyd uniongyrchol.

Y sail gyfreithiol i ni brosesu’r gwybodaeth yma yw ‘cytundeb’. Dyna achos mae’ch aelodaeth o Blaid Cymru yn golygu ein bod yn rhoi gwasanaeth i chi fel rhan o gytundeb.

Rhoddwyr

Os ydych yn rhoi rhodd i Blaid Cymru, byddwn yn prosesu’ch gwybodaeth personol er mwyn sicrhau bod yr arian yn cyrraedd ein cyfrif banc.

Mae’n rhaid i ni hefyd prosesu’ch gwybodaeth personol o dan yr amodau canlynol:

  • Os ydych yn rhoi mwy na £500 mae’n rhaid i ni wirio eich bod ar y gofrestr etholiadol â’r hawl i bleidleisio. Mae’n rhaid i ni hefyd gofnodi’ch enw a’ch cyferiad.
  • Os ydych yn rhoi mwy na £7,500, mae’n rhaid i ni gofrestru eich enw, a maint y rhodd, gyda’r Comisiwn Etholiadol. Mae’r Comisiwn yn cyhoeddi eich enw ar gofrestr gyhoeddus.

Rydym yn cadw cofnod o’r rhoddion llai ar ein cronfa ddata.

Y sail gyfreithiol am brosesu’ch rhoddion yw ‘buddiannau cyfreithiol’. Y sail gyfreithiol am brosesu eich gwybodaeth os byddwch yn rhoi mwy na £500 yw ‘rhwymedigaeth gyfreithiol’.

Cefnogwyr

Pan fyddwch yn dod yn gefnogwr Plaid Cymru arlein, byddwn yn cofnodi’ch cefnogaeth ar ein cronfa ddata. Y sail gyfreithiol am brosesu’r gwybodaeth yma yw ‘tasg gyhoeddus’.

Gwirfoddolwyr

Pan fyddwch yn gwirfoddoli gyda ni, byddwn yn cofnodi sut ydych yn dymuno helpu. Y sail gyfreithiol am brosesu’r gwybodaeth yma yw ‘tasg gyhoeddus’.

Y sawl sy’n mynd i’n digwyddiadau

Os byddwch yn cadarnhau y byddwch yn mynd i un o’n cynadleddau neu ddigwyddiadau, byddwn yn cadw eich manylion cyswllt ar ein cronfa ddata. Y sail gyfreithiol am brosesu’ch rhoddion yw ‘buddiannau cyfreithiol’.

Gwefan

Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt os ydych yn eu darparu ar ein gwefan. Byddwn yn defnyddio’r gwybodaeth yma i’ch diweddaru gyda pethau sydd o ddiddordeb i chi. Y sail gyfreithiol am brosesu’r gwybodaeth yma yw ‘tasg gyhoeddus’.

Teledu cylch cyfyng

Rydym yn defnyddio teledu cylch cyfyng i sicrhau bod ein staff a’n swyddfa yn ddiogel. Rydym yn cadw’r delweddau am 28 o ddiwrnodau cyn ei ddileu. Mae arwyddion yn hysbysu staff ac ymwelwyr ein bod yn recordio eu delweddau. Y sail gyfreithiol am brosesu’ch rhoddion yw ‘buddiannau cyfreithiol’.

Y sawl rydym yn rhannu eich gwybodaeth â nhw

Na fyddwn byth yn gwerthu’ch gwybodaeth. Weithiau rydym yn rhannu’ch gwybodaeth gyda chmwniau sy’n ein helpu gyda’n gwaith, ond dim ond os bydd gennym yr hawl gyfreithiol i’w wneud.

Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth â:

  • Cwmniau dosbarthu post, fel bod etholwyr ac aelodau yn derbyn gwybodaeth
  • Cwmniau darparu ebost megis NationBuilder
  • Aelodau etholedig, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr lleol, a
  • Rheoleiddwyr ac asiantau’r gyfraith, pan fydd ei angen am ymchwiliadau.

Pa mor hir rydym yn cadw eich gwybodaeth

Rydym yn adolygu’r gywbodaeth sydd gennym, ei berthnasedd, ac a oes angen i ni ei gadw, yn rheolaidd. Byddwn ond yn cadw eich gwybodaeth mor hir ag y bo angen. Mae ein polisi cadw gwybodaeth yn datgan pa mor hir y byddwn yn cadw gwybodaeth personol. Cysylltwch â ni am gopi.

Cwcis

Ffeil destun fechan bach yw cwci sy’n cael ei storio ar eich cyfrifiadur. Gallwn ddefnyddio cwcis i edrych ar y ffyrdd mae pobl yn symud o gwmpas ein gwefan. Rydym yn eu defnyddio hefyd i fonitro diogelwch y wefan. Fel arfer, gallwch atal cwcis trwy ddefnyddio’r arfau yn eich porwr.

Gallwn storio’r cyfeiriad rhyngrwyd y gwnaethoch ddefnyddio i gysylltu â’n cyfrifiadur, amser a dyddiad cysylltu, gwybodaeth o’r porwr a’r tudalennau aethoch atynt.

Cwcis targedu: Mae'n posib i'n partneriaid hysbysebu osod y cwcis hyn trwy ein gwefan. Gall y cwmnïau hynny eu defnyddio i adeiladu proffil o'ch diddordebau a dangos hysbysebion perthnasol i chi ar wefannau eraill. Nid ydynt yn storio gwybodaeth bersonol yn uniongyrchol, ond maent yn seiliedig ar adnabod eich porwr a'ch dyfais rhyngrwyd. Os na fyddwch yn caniatáu’r cwcis hyn, ni fydd yr hysbysebion y byddwch yn eu gweld wedi eu targedu gymaint.
google.com
youtube.com

Cwcis perfformiad a dadansoddi:
Google Analytics

Ffeiliau log ac ystadegau

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o systemau technegol i gadw llygad ar y modd mae ein gwefan yn gweithio, gan gynnwys:

  • Cyfeiriadau IP
  • URLs dogfennau a lawrlwythwyd
  • Stampiau amser
  • Asiant-ddefnyddwyr HTTP, a
  • Google Analytics (sydd ei hun yn defnyddio cwcis i ddadansoddi sut y mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan).

Trosglwyddo eich gwybodaeth tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd

Mae rhai o’n darparwyr gwybodaeth â’u canolfannau y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), felly weithiau bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth tu allan i’r AEE. Os byddwn yn trosglwyddo eich data tu allan i’r AEE fe wnawn y siŵr ei fod yn cael ei warchod yn yr un modd â phetai’r gwybodaeth tu mewn i’r AEE.

 Fe wnawn yn siŵr o hyn fel a ganlyn:

  • Byddwn yn anfon y gwybodaeth at ddarparwr gwasanaeth mewn gwlad lle mae’r safonau diogelu data wedi derbyn sêl bendith yr UE
  • Byddwn yn ei drosglwyddo i fudiad sy’n cwrdd â safonau ‘Tarian Preifatrwydd’ yr UE-UDA, a
  • Bydd gennym gontract gyda’r cwmniau yma, gyda’r telerau yn nodi bod angen iddynt gadw at y safonau angenrheidiol.

Sut rydym yn gwarchod eich gwybodaeth

Mae diogelwch eich gwybodaeth yn bwysig i ni. Rydym yn ei warchod gyda chamau technegol a threfniadol. Byddwn yn adolygu ein camau diogelwch er mwyn gwneud yn siŵr fod eich gwybodaeth yn ddiogel.

Eich hawliau dros eich gwybodaeth 

Byddwn yn gweithredu mor fuan ag sy’n bosib pan fyddwch yn gofyn am arfer unrhyw rai o’ch hawliau data (gweler isod), a fydd ymhen un mis oni fydd eich cais yn arbennig o gymhleth. Os felly, byddwn yn dweud wrthych am yr oedi a’n rhesymau drosto.

Eich hawliau data

Hawl mynediad – gallwch ofyn am gopi o’ch gwybodaeth bersonol a manylion am sut ydym yn ei ddefnyddio. Yr enw cyffredin ar y cais hwn yw cais gwrthrych am wybodaeth

Hawl i unioni – gallwch ofyn i ni gywiro gwybodaeth anghywir neu anghyflawn amdanoch.

Hawl i gael eich anghofio – gallwch ofyn i ni ddileu gwybodaeth amdanoch.

Hawl i gyfyngu prosesu – gallwch ofyn i ni gyfyngu’r modd yr ydym yn prosesu eich gwybodaeth.

Hawl i wrthwynebu - gallwch ofyn i ni roi’r gorau i gysylltu â chi yn bersonol. Ond mae gennym hawl o hyd i anfon taflen wedi ei chyfeirio atoch adeg etholiad, a gallwch ddal i dderbyn taflenni heb eu cyfeirio.

Hawl i wrthwynebu i brosesu data gwleidyddol – gallwch ofyn i ni roi’r gorau i brosesu gwybodaeth am eich barn wleidyddol.

Proffilio

Os oes gennym wybodaeth am eich bwriadau pleidleisio a’ch hanes o bleidleisio, byddwn yn asesu pa mor debygol yw y byddwch yn pleidleisio dros Blaid Cymru. Proffilio yw’r enw am hyn, ac nid ydym yn meddwl fod hyn yn cael effaith arwyddocaol arnoch chi.

Gwneud cwyn 

Os nad ydych yn hapus am y modd rydym wedi prosesu neu drin eich gwybodaeth, gallwch gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG). SCG yw’r corff goruchwylio a awdurdodir gan Ddeddf Diogelu Data 2018 i reoleiddio’r ffordd mae gwybodaeth personol yn cael ei gasglu, ei ddefnyddio a’i storio yn y Deyrnas Gyfunol. Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk/concerns/

Cyhoeddwyd y fersiwn hon o’r polisi preifatrwydd ar Ragfyr 18, 2019.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd