Ymgyrchoedd

Dysgwch mwy am (ac efallai cefnogi) rhai o'r ymgyrchoedd mae Sioned yn gweithio arnyn ar hyn o bryd fel eich Aelod lleol o'r Senedd.


Mae bysiau yn wasanaethau hanfodol i lawer o fy etholwyr. Bob dydd, mae bysiau'n sicrhau y gall pobl gyrraedd addysg, cyflogaeth a gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Maent yn bwysig i'n hiechyd, ein cyfoeth a'n lles, gan gyfrannu at ein cadw mewn cysylltiad a lleihau allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth.

Fodd bynnag, mae bysiau dan fygythiad. Gyda chostau cynyddol, llai o incwm gan deithwyr, a thoriadau cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae angen ein cefnogaeth ar fysiau nawr. Am ganlyniadau fy arolwg defnyddwyr bysiau, cliciwch yma.


Mae gan Orllewin De Cymru dreftadaeth gyfoethog a chynnig diwylliannol bywiog. Dros y canrifoedd, mae beirdd, artistiaid, awduron, cerddorion, actorion, eiconau chwaraeon a llawer mwy wedi byw a gweithio yn ein cymunedau. Mae gennym adfeilion trawiadol ym mhob cornel o'r rhanbarth, o gestyll i weithfeydd copr, henebion i etifeddiaeth y rhai a ddaeth o'n blaenau.


Ers cael fy ethol, rwyf wedi ymdrechu i ymweld â phobl a lleoedd ar draws y rhanbarth, gan gynnal meddygfeydd stryd yn rheolaidd neu ymweld ag amrywiaeth eang o grwpiau a sefydliadau lleol. I mi, mae hyn yn rhan hanfodol o'm rôl fel eich cynrychiolydd.


Yn 2019, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Ers hynny mae datganiad o argyfwng natur wedi dilyn hyn. 


Text saying Previous Campaign with image of Sioned in background

sign post

Yn dilyn y llifeiriant diweddar o fyrgleriaethau ac ymosodiadau ar fusnesau lleol yng nghanol tref Castell-nedd rwy’n awyddus i wneud popeth o fewn fy ngallu i wneud canol y dref yn ddiogel ac yn groesawgar i bawb. Rwy’n hynod falch o’n tref fywiog ac ar ôl agor swyddfa ar Stryd Alfred yn ddiweddar mae’n anrhydedd i mi fod yn rhan o’r gymuned, ond fel y gwyddom oll, nid yw heb ei heriau.

Text saying "Dental Provision" with image of dental procedure in background

Mae darpariaeth ddeintyddol y GIG wedi bod yn dirywio ers blynyddoedd lawer.  Yn 2022 cynhaliais arolwg o'ch profiadau, eich pryderon a gofynnais am adborth a godais yn y Senedd, gan ofyn i Lywodraeth Cymru wneud mwy.

Cliciwch yma neu ar  y llun i darllen mwy.


Mae llawer o drigolion Pontardawe, Trebannws, Godre’rgraig a’r Alltwen a’r ardaloedd cyfagos yn pryderu am y cynnig ar gyfer ysgol gynradd newydd ym Mhontardawe ar safle presennol Ysgol Cwmtawe. Cliciwch ar y llun i ddarllen mwy.

Cliciwch yma neu ar y llun i ddarllen mwy. 


Grŵp Plaid a celflun iâ yn toddi

Yn y cyfnod yn arwain at Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ym mis Tachwedd (COP26) yn Glasgow, gofynais am eich barn ar gyflwr yr amgylchedd lleol a sut y gall newid yn yr hinsawdd fod yn effeithio arnoch chi. Ers hynny dwi wedi bod yn gwneud fy nghorau lle bosib i wneud yn siŵr fod yr amgylchedd yn flaenoriaeth bwysig yn fy ngwaith.

Cliciwch yma neu ar y llun i weld canlyniadau'r arolwg.


Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd