Niwed gan belydrau UV yr haul yw prif achos canser y croen, ac yng Nghymru, canserau'r croen sy'n cyfrif am bron i hanner holl ganser. Mae gan Gymru hefyd yr anrhydedd amheus o gael y cyfraddau uchaf o ganser y croen allan o bedair gwlad y DU. Drwy roi polisïau iechyd cyhoeddus cadarn ar waith fel sicrhau bod eli haul ar gael mewn peiriannau dosbarthu mewn gweithleoedd sector cyhoeddus, ysgolion ac ysbytai a sicrhau bod pob plentyn yn yr ysgol yn dysgu sut i amddiffyn eu hunain rhag pelydrau UV, gallwn gael effaith ar yr argyfwng iechyd cynyddol hwn.
Rhaid inni weld hyn drwy lens llesiant cenedlaethau’r dyfodol, a rhaid inni roi’r sylw difrifol y mae’n ei haeddu i’r mater hwn.
Cliciwch yma i adael sylw neu i ddanfon neges
12.08.24 - Colofn: Y canser y gellir ei atal sy'n taro Cymru galetaf
17.07.24 - Polisi diogelwch haul ysgolion?
Nes i ysgrifennu at gynghorau siroedd Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Pen-y-bont ar Ogwr i ofyn a oes gan ysgolion polisi diogelwch haul neu weithdrefn ffurfiol. Yn anffodus doedd yr atebion y daeth yn ôl ddim yn ateb yr angen.