Hafan > Ymgyrchoedd > Ein Canol Trefi
Ein Canol Trefi
Agorais fy swyddfa ar Stryd Alfred yng Nghastell-nedd fuan ar ôl cael fy ethol i'r Senedd yn 2021, ac mae'n anrhydedd i mi fod yn rhan o'r gymuned. Mae hefyd yn fy ngwneud yn ymwybodol iawn o rai o'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu – megis cyfres o fyrgleriaethau ac ymosodiadau ar fusnesau lleol yn 2022, a'r heriau parhaus o gadw'r farchnad yn ganolfan ffyniannus.O ddarganfod beth ydych chi'n ei feddwl drwy fy arolwg 'Dyfodol canol tref Castell-nedd', i gynnal cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn y farchnad, ers i mi gael fy ethol i'r Senedd rydw i wedi bod yn ymgyrchu'n galed dros ddyfodol disglair i Ganol Tref Castell-nedd.