logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Arolwg: Sut mae newidiadau yn effeithio arnoch chi?

Sut mae newidiadau i fuddâdaliadau anabledd yn gallu effeithio arnoch chi? Dywedwch wrthyn ni beth rydych chi’n feddwl

27.10.2025

Pan gyflwynodd Llywodraeth y DU newidiadau arfaethedig i fudd-daliadau anabledd, roedd nifer o bobl yn poeni am y dyfodol. Ers hynny bu newidiadau i'r cynlluniau gwreiddiol, ac ar hyn o bryd (ym mis Hydref 2025) yr unig newidiadau sy'n cael eu gweithredu yw’r rhai sy’n ymwneud â Chredyd Cynhwysol, sy'n cynnwys dileu'r asesiad capasiti gwaith a chreu system newydd, a thynhau meini prawf.

Rwy'n gwybod bod pryder mawr am yr effaith y gallai hyn ei chael yma, ac mae rhai pobl yn dal i boeni am ba newidiadau y y gallai cael eu gwneud i'r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) ar ôl yr adolygiad cyfredol (a elwir yn Adolygiad Timms).

Mae gan Gymru gyfran uwch o bobl sy'n derbyn budd-daliadau anabledd na nifer o rannau eraill o'r DU, ac mae gan y rhanbarth rwy'n ei chynrychioli un o'r bylchau cyflog anabledd mwyaf yng Nghymru. Gallai hyn fod yn arwydd bod rhwystrau nad ydynt yn bodoli mewn rhannau eraill o'r wlad.

Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol yn y Senedd ar Anabledd Dysgu a Llefarydd Plaid Cymru ar Gydraddoldeb, mae rhai o'r pryderon hyn wedi'u codi'n uniongyrchol gyda mi, ond rwyf am glywed gan y nifer fawr o bobl eraill a fydd yn cael eu heffeithio gan unrhyw newidiadau.

Felly rwyf am ddarganfod barn y bobl rwy'n eu cynrychioli. Rwy'n croesawu ymatebion gan unrhyw un sy’n byw yn ardaloedd awdurdodau lleol Abertawe, Castell-nedd Port Talbot neu Ben-y-bont ar Ogwr a allai fod yn cael eu heffeithio gan y newidiadau hyn. Efallai mai chi, neu rywun rydych chi'n agos ato a/neu sy'n gofalu amdano sy'n derbyn Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP), Credyd Cynhwysol (UC) neu fath arall o fudd-dal anabledd.

Pan fyddwch chi'n cyflwyno'r ffurflen hon, ni fydd yn casglu eich manylion fel enw a chyfeiriad e-bost yn awtomatig oni bai eich bod chi'n eu darparu eich hun. Gallwch lenwi'r ffurflen ar-lein drwy glicio ar y botwm isod:

Ffurflen ar-lein

Gellir agor fersiwn hawdd ei ddarllen o'r arolwg fel dogfen ar wahân drwy glicio ar y botwm isod:

Arolwg Hawdd ei Ddeall

Mae'r arolwg hefyd ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain yny fideo isod:

Arolwg: Sut mae newidiadau yn effeithio arnoch chi? (Fersiwn Iaith Arwyddion Prydain)

Os oes angen help arnoch i gwblhau'r arolwg hwn, anfonwch e-bost ataf Sioned.Williams@Senedd.Cymru neu ffoniwch fy swyddfa ar 01639 203204 a bydda i neu aelod o'm tîm yn ceisio eich helpu. Gallwch hefyd ofyn am apwyntiad os byddai'n well gennych roi eich ymatebion wyneb yn wyneb. 

Cymerwch ychydig funudau i rannu eich meddyliau. Mae eich llais yn bwysig.

Yn ôl