Adroddiad newydd ar hawliau dynol
12.11.2025
“Mae cryfhau hawliau dynol yn fater sydd wrth galon ein democratiaeth a’n dyfodol” – Sioned Williams AS
Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol, dan gadeiryddiaeth Sioned Williams AS, wedi cyhoeddi adroddiad Cynnydd ar Hawliau Dynol yng Nghymru 2025 yn dilyn ymchwiliad i gyflwr hawliau dynol yng Nghymru.
Mae canfyddiadau’r adroddiad yn dangos, er gwaethaf degawd o argymhellion gan y Cenhedloedd Unedig, pwyllgorau’r Senedd, ymchwil annibynnol, a chymdeithas sifil, nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu i ymgorffori confensiynau allweddol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru.
Mae’r adroddiad yn manylu ar y canlyniadau i bobl Cymru, ac yn galw am Ddeddf Hawliau Dynol i Gymru, y mae’n dweud y dylid ei chyflwyno cyn gynted â phosibl.
Cynhaliodd Sioned Williams ddadl yn y Senedd y hefyd ar bwysigrwydd cryfhau hawliau dynol i bobl Cymru.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
Mae’r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn ein hadroddiad, yn datgelu Cymru lle mae hawliau dynol yn rhy aml yn addewidion yn hytrach nag yn amddiffyniadau penodol.
Yn y cyfamser, mae pobl Cymru yn parhau i wynebu tlodi, nawdd cymdeithasol annigonol, a rhwystrau i gael mynediad at ofal iechyd, tai, addysg a chyfiawnder, tra bod gwahaniaethu yn parhau i wadu hawliau pobl anabl, menywod, cymunedau hiliol, a phlant.
Cynhyrchwyd yr adroddiad gan yr Athro Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe, a Glenn Page o Amnesty Cymru.
Dywedodd Glenn Page, Cyfarwyddwr Amnesty International Cymru:
Nid yw’n ddigon dweud ein bod yn cefnogi hawliau dynol; rhaid i ni ymgorffori hawliau dynol yn y gyfraith i sicrhau bod hawliau beunyddiol pobl yn cael eu hamddiffyn a’u cynnal nawr, ac yn y dyfodol.
Dyna pam mae Amnesty International Cymru yn galw am Fil Hawliau Dynol Cymru, oherwydd dyma’r unig ffordd i sicrhau amddiffyniadau i hawl pobl i addysg, iechyd, tai a’r holl bethau sydd eu hangen arnom i fyw gydag urddas a diogelwch.
Ychwanegodd Sioned Williams:
Hoffwn ddiolch i ysgrifennydd y grŵp Trawsbleidiol, yr Athro Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe, a Glenn Page o Amnesty Cymru am eu gwaith ar gynhyrchu’r adroddiad hwn a’u hymroddiad hir i’r gwaith o gryfhau hawliau dynol yng Nghymru.
Cafodd y stori sylw gan y cyfryngau newyddion canlynol: (Seasneg yn unig)
[dolenni i wefanau allanol yn agor mewn ffenestr newydd]
Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.





