Hafan > Ein Cymuned > Ymweliad Coed Darcy
Ymweliad Coed Darcy
06.11.2026
Diolch i Elise yn Revantage am fy nghroesawu i Coed Darcy.
Wedi'i enwi ar ôl sylfaenydd BP, William Knox D'Arcy, dyma safle gwreiddiol y burfa olew gyntaf yn y DU, a agorwyd ym 1922 ac a oedd ar waith tan 1998. Yng nghanol y 2000au, daeth yn safle datblygiad uchelgeisiol a oedd i fod i weld adeiladu 4,000 o gartrefi, cyfleusterau cymunedol gan gynnwys addysg gynradd ac uwchradd, mannau masnachol ac agored yn y pen draw.
Cafodd fewnbwn gan Sefydliad y Tywysog, ac ymwelwyd ag ef gan y Tywysog Siarl ar y pryd yn 2013. Ar ôl cwblhau bron i 300 o gartrefi, oedwyd y gwaith. Am flynyddoedd, mae mwyafrif helaeth y safle wedi cael gwaith adfer sylweddol ond mae'r weledigaeth o Poundberry Cymreig yn parhau i fod heb ei chyflawni.
Byddaf yn gofyn am ragor o wybodaeth gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn fy nghyfarfod â nhw ar 13 Tachwedd.”


