logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > Ein Cymuned > Ymweliad â Organised Kaos

Ymweliad â Organised Kaos

23.10.2026

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

Dau berson yn eistedd ar beli ymarfer mawr yn Organised Kaos, gyda chyfarpar gweithgareddau lliwgar yn y cefndir.
 
 
  • Dau berson yn eistedd ar beli ymarfer mawr yn Organised Kaos, gyda chyfarpar gweithgareddau lliwgar yn y cefndir.
  • Baner Organised Kaos wedi’i gosod ar ffens haearn wrth fynedfa’r safle, gyda’r logo a manylion cyswllt i’w gweld yn glir.

Mae hi wastad yn hwyl torri ar draws yr wythnos waith gyda sgiliau syrcas!

Roedd hi’n wych ymweld â chanolfan Organised Kaos yng Nghwmgors, a dysgu am y gwaith arbennig maen nhw’n eu gwneud ar gyfer y gymuned leol. Roedd amynedd a brwdfrydedd y sylfaenydd, Nicola, yn wirioneddol ysbrydoledig – yn enwedig o ran creu cyfleoedd i bobl ifanc niwrowahanol a’r rhai sy’n rhan o’r gymuned LGBTQIA, a helpu i ddatblygu eu doniau a’u diddordebau cudd. Buom hefyd yn trafod yr hymrwymiad i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.

Rwyf bob amser yn cael fy syfrdanu gan yr amrywiaeth enfawr o dalent sydd i’w cael ym mhob cwr o’r etholaeth. Diolch i Nicola am fy nghroesawu; gobeithio y byddwch yn parhau i feithrin creadigrwydd pobl ifanc yng Nghymru am flynyddoedd i ddod.

Yn ôl