Hafan > Ein Cymuned > Cystadleuaeth Dylunio Cerdyn Nadolig!
Cystadleuaeth Dylunio Cerdyn Nadolig!
09.11.2026
Rwy wrth fy modd yn agor y gystadleuaeth dylunio fy Ngherdyn Nadolig ar gyfer eleni, i gynnwys holl ardaloedd newydd etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd!
Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn llwyddiant mawr yn y gorffennol ac rwyf wedi bod wrth fy modd yn gweld eich holl ddyluniadau.
Mae manylion isod a bydd e-bost yn cael eu hanfon at bob ysgol gynradd leol ar draws y rhanbarth.
Rwy’n cynnal cystadleuaeth ar gyfer plant ysgolion cynradd lleol ddylunio fy Ngherdyn Nadolig digidol.
Thema: Nadolig yng Nghymru
Dyddiad Cau: Dydd Llun 7 Rhagfyr 2026
Ebostiwch i : sioned.williams-as@senedd.cymru
Rhaid i'r plentyn fod yn byw yn etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd.
Cofiwch gynnwys enw, oedran ac ysgol y cyfranogwr. Hefyd, cynnwys enw a manylion cyswllt rhiant, gwarcheidwad neu athro.