logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > Ein Cymuned > Cylchlythyr y Gwanwyn / Haf 2026

Cylchlythyr y Gwanwyn / Haf 2026

23.07.2026

  • Yn dilyn yr etholiad ym mis Mai, rwy'n falch iawn o ddychwelyd i'r Senedd fel un o Aelodau'r Senedd dros Brycheiniog Tawe Nedd. Ar ôl 27 mlynedd o Lafur mewn llywodraeth yma yng Nghymru, am y tro cyntaf, mae Plaid Cymru wedi ffurfio Llywodraeth Cymru ac roedd yn anrhydedd i mi gael fy ngwahodd i wasanaethu fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru a Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb. Rwy'n edrych ymlaen at ymgymryd â heriau pwysig y portffolio hwn yn ogystal â chynrychioli pobl ar draws Brycheiniog Tawe Nedd.
  • Mae etholaeth newydd Brycheiniog Tawe Nedd, yr wyf yn ei chynrychioli, yn un o 16 etholaeth newydd yn y Senedd. Mae pob etholaeth yn cael ei gwasanaethu gan chwe Aelod o'r Senedd, o amrywiaeth o bleidiau, sy'n adlewyrchu cyfran y pleidleisiau a gafodd eu bwrw ar draws yr etholaeth honno. Mae Brycheiniog Tawe Nedd yn ymestyn o'r arfordir yn Nwyrain Abertawe yr holl ffordd i ganol Cymru, ac felly, mae'n cynnwys tri chyngor: Castell-nedd Port Talbot, Powys a Abertawe. Ym Mrycheiniog Tawe Nedd, mae dau Aelod o'r Senedd sy’n cynrychioli Plaid Cymru wedi'u hethol i'ch cynrychioli chi – fi a Rebeca Phillips. Mae fy swyddfa etholaethol yng Nghastell-nedd, ond ble bynnag rydych chi'n byw ym Mrycheiniog Tawe Nedd, gallwch droi ataf am help ar bob math o faterion gan gynnwys iechyd, yr amgylchedd, addysg, tai a diogelwch cymunedol. Gallwch hefyd gysylltu os ydych chi'n rhan o grŵp cymunedol ac eisiau siarad â mi am eich gwaith neu os hoffech i mi ymweld.
  • Mae gymaint o atgofion arbennig gen i am Dan-yr-Ogof – dyma un o hoff lefydd fy mhlant pan oedden nhw’n llai. Roeddwn yn falch o dderbyn gwahoddiad i ymweld â’r lleoliad, yng nghwmni fy nghyd-AS dros Frycheiniog Tawe Nedd, Rebeca Phillips AS. Mae pwysigrwydd Dan-yr-Ogof yn amlwg, fel atyniad i dwristiaid ac fel cyflogwr lleol. Dwi wedi bod yn dod i Ŵyl y Gelli ers dros 30 mlynedd, felly mae’n hyfryd nawr gallu cynrychioli Tref y Llyfrau a'i gŵyl wych yn y Senedd. Diolch i Gadeirydd yr Ŵyl am fy ngwahodd i glywed am eu cynlluniau cyffrous ar gyfer nodi pen-blwydd yr Ŵyl yn 40 oed y flwyddyn nesaf. Roedd hi’n fraint enfawr hefyd cwrdd â dwy o fy arwresau, Emma Thompson a Lyse Doucet! Cafodd Rebeca Phillips a finnau amser gwych wrth ymuno â ‘My Green Valley’ ar gyfer eu sesiwn casglu sbwriel fisol yng Nghlydach. Fe wnaethom ni dreulio amser yn cerdded ar hyd y gamlas, ac o amgylch rhannau o'r dref, gan gasglu sawl sach yn llawn sbwriel.
  • “Mae pawb yn ddiogel yma” – dyna ddywedodd un o’r disgyblion wrtha i pan ofynnais iddyn nhw beth oedden nhw’n ei hoffi fwyaf am Ysgol Gynradd y Gelli. Roeddwn i’n ymweld â’r ysgol fel un o’u Haelodau o’r Senedd lleol, i ddarganfod mwy am y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud i greu diwylliant o groeso a chynhwysiant, fel Ysgol Noddfa. Cefais ddiwrnod hyfryd yng Ngŵyl Fwyd Pontardawe yng nghwmni cynghorwyr lleol a Maer Pontardawe. Diolch o galon i bawb a fu'n rhan o'r digwyddiad cymunedol gwych hwn, a oedd yn arddangos y gorau o fwyd a diod lleol Cymru. Roedd hi'n hyfryd galw heibio i'r bore coffi yn Neuadd Goffa Dyffryn Clydach, a drefnwyd gan Gysylltiadau Cymunedol Dyffryn Clydach. Mae'r boreau coffi, sy’n cael eu cynnal bob bore Gwener, yn amlwg yn cael eu gwerthfawrogi gan bawb sy'n mynychu - ac mae’n gyfle da i fi allu helpu pobl gyda’r materion sy’n eu poeni.
  • Ymwelais â Theatr Brycheiniog, Aberhonddu i glywed am y rôl mae'r ganolfan arbennig hon yn ei chwarae yn ei chymuned ac yn y cylch ehangach. Diolch i Sara a'r tîm am y croeso cynnes. Roeddwn i’n falch o dderbyn gwahoddiad i wasanaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Castell-nedd i siarad am fy rôl, ac ateb cwestiynau am fod yn un o'u Haelodau o'r Senedd. Fe wnes i fwynhau clywed eu Cân Ysgol a'u cân am hawliau plant. Roedd hefyd yn braf gallu dweud
  • Yn y Senedd, rwyf wedi nodi fy mlaenoriaethau fel Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb. Un o'm cyfrifoldebau niferus yn Llywodraeth Cymru fydd goruchwylio'r gwaith i ehangu gofal plant a ariennir ac i dreialu taliad plant uniongyrchol. Mynychais fore coffi yn Llyfrgell Pontardawe, lle buom yn trafod ystod eang o faterion - o wasanaethau bancio a bysiau lleol, i gau siopau, sbwriel a chyfleoedd i bobl ifanc. Mae Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot yn cynnal nifer o foreau coffi a gweithgareddau grŵp eraill ar draws yr holl lyfrgelloedd maen nhw'n eu rheoli, felly cyfeiriwch atyn nhw am ragor o fanylion. Cyfarfûm ag etholwyr y tu allan i'r Senedd, gyda Haemophilia Wales, sy'n ymgyrchu dros gyfiawnder i bobl yr effeithir arnyn nhw gan y sgandal gwaed heintiedig. Rwy'n cefnogi eu galwadau i symleiddio'r broses fel y gellir talu iawndal yn gyflym.
  • Rydyn ni mor ffodus yng Nghastell-nedd i gael lle mor wych i bobl ifanc - Clwb Bechgyn a Merched Castell-nedd ym Melincryddan, a ail-agorodd ei ddrysau yn ddiweddar. Mae’n lle gwych eisoes, gyda champfa fawr a chyfleusterau cegin lawr llawr, ac mae gan y tîm o wirfoddolwyr gynlluniau ar gyfer lan llofft hefyd. Os oes gennych ddiddordeb yn y digwyddiadau a’r gweithgareddau maen nhw’n eu cynnal, neu os hoffech helpu fel gwirfoddolwr, cysylltwch â’r tîm. Yn ddiweddar, cynhaliodd Noddfa i Ffoaduriaid y Gelli, Aberhonddu a Thalgarth gystadleuaeth gelf a llenyddiaeth i ysgolion ledled de Powys i gydnabod dewrder a chyfraniadau ffoaduriaid, ddoe a heddiw. Yr wythnos hon fe ymwelais â'r arddangosfa ‘Dathlu Ffoaduriaid’ yn Theatr Brycheiniog lle roedd y mynegiant o greadigrwydd a charedigrwydd y disgyblion mor glir i'w weld. Fe gwrddais i hefyd â Sofiia, disgybl yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu sydd wedi ymgartrefu yn Aberhonddu ar ôl gorfod ffoi o Wcráin. Rhannodd ei barddoniaeth ingol a phwerus gyda fi. Da iawn i bawb a gymerodd ran ac sy'n gweithio i roi croeso i bobl sydd angen ein cymorth.
  • Mae'n anrhydedd cael fy ngwahodd i wasanaethu fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru a Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb. Fel Dirprwy Brif Weinidog fy rôl yw cyflenwi dros y Prif Weinidog pan fydd ganddo flaenoriaethau eraill sy’n cystadlu am ei amser, a gallai hyn gynnwys gwneud cyfweliadau gyda’r cyfryngau, mynd ar ymweliadau swyddogol, ac ymateb i Gwestiynau’r Prif Weinidog. Fel Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, mae fy mhortffolio yn cynnwys materion sy'n ymwneud â thegwch a chydraddoldeb, yn ogystal â bod â chyfrifoldeb am y blynyddoedd cynnar.

Yn ôl