logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > 6 Senedd > Ymgyrchoedd > Ysgolion Cwm Tawe > Buddugoliaeth yn yr Uchel Lys

Buddugoliaeth yn yr Uchel Lys

24.10.2022

Poster ar wal sy'n croesawu pobl i ysgol gynradd Alltwen

Mae Sioned Williams AS wedi croesawu dyfarniad yr Uchel Lys bod penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i agor ysgol enfawr newydd cyfrwng Saesneg ym Mhontardawe yn anghyfreithlon, am iddyn nhw fethu ag asesu effaith hyn ar addysg Gymraeg.

Mae’r dyfarniad yn dilyn cais am adolygiad barnwrol gan Rhieni Dros Addysg Gymraeg (“RhAG”), mudiad sy’n cefnogi rhieni sy’n dymuno dewis addysg Gymraeg i’w plant ac sy’n hyrwyddo addysg Gymraeg yn gyffredinol.

Dywedodd Sioned Williams AS:

“Mae hyn yn newyddion da i Gwm Tawe o ran gwarchod a datblygu'r Gymraeg yn lleol ac o ran tanlinellu natur wallus yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y cynlluniau ad-drefnu ysgolion cyfrwng Saesneg.  Hoffwn ddiolch i RhAG, a lwyddodd i herio penderfyniad y Cyngor i agor yr ysgol newydd gan nad oedd yr ymgynghoriad statudol a’r penderfyniad dilynol o hynny yn cydymffurfio â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru. Rwy’n gyson wedi codi’r pwnc hwn gyda'r Cyngor blaenorol a gyda Llywodraeth Cymru, ac felly’n falch iawn o benderfyniad yr Uchel Lys.

 “Mae nawr angen ymgynghoriad newydd ar opsiynau amgen o ran ad-drefnu ysgolion yng Nghwm Tawe a sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd y cyllid a glustnodwyd ar gyfer y cynllun ac a gafodd ei oedi yn sgil y pryderon hyn, ar gael i'r Cyngor ar gyfer yr opsiynau posib eraill."

Cafodd y stori hon sylw gan y cyfryngau newyddion canlynol:

Golwg 360: Penderfyniad i agor ysgol enfawr newydd cyfrwng Saesneg yn “anghyfreithlon”, medd yr Uchel Lys

[dolen i wefan allanol yn agor mewn ffenestr newydd]

 

Darllenwch erthygl Golwg 306

press release about the Neath Port Talbot Council's decision to open a new English-medium super-school part 1
press release about the Neath Port Talbot Council's decision to open a new English-medium super-school part 2
press release about the Neath Port Talbot Council's decision to open a new English-medium super-school part 3

Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.

Pob newyddion