Sioned Williams yn galw am ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru i lefelau treth Cyngor Castell-nedd Port Talbot
14.06.2021
Mae'r AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i Gynghorau fel Castell-nedd Port Talbot sy'n codi cyfraddau treth Cyngor uwch yn gyson.
Ar hyn o bryd mae preswylwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot yn talu’r drydedd gyfradd uchaf o dreth y Cyngor yng Nghymru sy tua £250 yn fwy na chynghorau cyfagos. Mae cartref Band D yng Nghastell-nedd Port Talbot yn talu £1,996, o'i gymharu â £1,729 yn Sir Gaerfyrddin a £1,753 yn Abertawe. Cododd yr AS Plaid Cymru y mater gyda’r Prif Weinidog Mark Drakeford AS yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 13eg).
Dywedodd:
“Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot, yn gosod un o’r lefelau treth Cyngor uchaf yng Nghymru yn gyson, ac yn syml ni all preswylwyr ddeall pam ei bod yn costio cymaint mwy i Gyngor CNPT ddarparu gwasanaethau, o’i gymharu â siroedd cyfagos.
“Ni all fod yn iawn bod trigolion Castell-nedd Port Talbot yn talu £267 yn fwy bob blwyddyn am eu treth Cyngor na thrigolion Sir Gaerfyrddin, a £243 yn fwy na thrigolion Dinas a Sir Abertawe.“Mae tegwch wrth wraidd y mater hwn, a thra'n derbyn hawl ddemocrataidd pob awdurdod lleol i osod ei lefelau treth gyngor ei hun, siawns na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod Cynghorau ledled Cymru yn adolygu eu system lefelau gwariant.
“Rwy’n credu y dylai Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad yn benodol i awdurdodau sy'n trethu'n uwch fel Castell-nedd Port Talbot gyda’r bwriad o sicrhau lefelau treth y cyngor mwy cyson yng Nghymru."
Mewn ymateb i’r cwestiwn gan Sioned Williams, nododd Mark Drakeford AS fod cynnydd canrannol treth Cyngor Castell-nedd Port Talbot eleni yn is na rhai Cynghorau eraill, gan gynnwys awdurdodau dan arweiniad Plaid Cymru, ond nododd Mrs. Williams fod y Prif Weinidog yn methu’r pwynt.
Ychwanegodd:
“Nid y cynnydd canrannol mewn un flwyddyn benodol yw’r broblem yma. Y gwir yw bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi codi cannoedd o bunnoedd yn fwy mewn treth y cyngor ar breswylwyr nag mewn rhannau eraill o Gymru, ac mae hyn wedi digwydd ers nifer o flynyddoedd. Pam nad oes gan Lafur Cymru ddiddordeb mewn mynd i’r afael â’r mater hwn? ”