logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > 6 Senedd > Newyddion > Sioned Williams yn ymuno â RCN i fynnu cyflog teg i nyrsys

Sioned Williams yn ymuno â gweithwyr yr RCN i fynnu cyflog teg i nyrsys

20.12.2022

Heddiw, fe ymunodd Sioned Williams, Aelod o’r Senedd  dros Orllewin De Cymru, â llinell biced y tu allan i Ysbyty Tre Forys, ac wythnos diwethaf, Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, lle mae nyrsys yn galw am gyflogau ac amodau teg fel rhan o streic genedlaethol gan Undeb Coleg y Nyrsys (RCN).

Sioned ar linell biced

Mae RCN Cymru yn parhau i fod mewn anghydfod cyflog ers mis Hydref 2021 ynghylch ei ddyfarniad cyflog o 3% ar gyfer staff nyrsio GIG Cymru. Mae’r undeb yn galw am ddyfarniad cyflog sy’n 5% yn uwch na chwyddiant i unioni’r blynyddoedd o doriadau cyflog mewn termau real, sydd wedi arwain at nyrsys yn gadael y proffesiwn a pheryglu diogelwch cleifion.

Dywedodd Sioned Williams:

“Mae’n warthus bod yr un nyrsys hynny a’n hamddiffynnodd yn ystod y pandemig bellach yn defnyddio banciau bwyd ac yn crio ar ôl cyrraedd adref oherwydd y pwysau sydd arnynt a’r ymdeimlad nad ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol.

“Nyrsys yw asgwrn cefn ein GIG, ond mae cyflogau gwael ac amodau gwaith truenus wedi arwain at ymdeimlad eang o anobaith yn y proffesiwn.”

Ychwanegodd:

“Roeddwn yn falch o ymuno â gweithwyr RCN yn Nhre Forys heddiw ac ym Maglan wythnos diwethaf. Mae ond yn iawn i’r rhai sy’n gofalu amdanom dderbyn gofal eu hunain, a dyna pam rydw i yn llwyr gefnogi galwadau’r RCN ac yn sefyll gyda nyrsys a holl weithwyr y sector cyhoeddus yn eu galwad dros gyflogau ac amodau teg.”

Yn ôl