logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > 6 Senedd > Newyddion > Sioned Williams yn cefnogi hawliau ffoaduriaid

Sioned Williams yn cefnogi hawliau ffoaduriaid

09.05.2023

Heddiw, fe lambastiodd yr Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, Lywodraeth Geidwadol y DG am eu hymosodiadau "annynol" ar hawliau ffoaduriaid.

"Mae Plaid Cymru yn rhoi ar gofnod ein condemniad o honiadau diweddar y Ceidwadwyr yma yng Nghymru, ac yn San Steffan, am geiswyr lloches a ffoaduriaid, a'r modd y mae eu hawliau dynol yn cael eu tramgwyddo gan ddeddfwriaeth. Ni ddylai'r Senedd gydsynio i'r Bil Mudo Anghyfreithlon anfoesol, annynol, annerbyniol y mae'r Ceidwadwyr am ei weld."

dwy fenyw a dau o blant gyda bagiau ar blatfform trên

Wrth ymateb i ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, dywedodd, Sioned Williams:

"Mae'n drasig nodi bod Diwrnod Ewrop, sydd i fod i ddathlu heddwch ac undod, yn ddiwrnod ble rydym yn dal i orfod trafod yr hyn y mae rhyfel a gormes yn ei greu—y dinistr a'r boen i fywydau pobl sy'n gorfod ffoi rhag trais ac erledigaeth ar gyfandir Ewrop a thu hwnt."

"Mae angen cefnogaeth yn ddirfawr ar y bobl hyn, o Wcráin a gwledydd eraill—llwybrau diogel, llety pwrpasol, brawdgarwch a chwaergarwch, nid rhethreg gan wleidyddion sy'n corddi ac yn hybu drwgdeimlad a rhaniadau."

Aeth Sioned Williams ymlaen i nodi “na fydd ein dyhead i fod yn genedl noddfa yn un gall gael ei wireddu'n llawn” tra bod pwerau dros hawliau ffoaduriaid yn parhau i fod yn San Steffan.

Pwysodd Sioned Williams hefyd ar Lywodraeth Cymru i gefnogi cyfleoedd dysgu Cymraeg am ddim a darparu gwell cymorth tai i ffoaduriaid, yn ogystal â chynnig cymorth i ddinasyddion Cymru sydd â theulu yn Swdan.

Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.

Yn ôl