logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > 6 Senedd > Newyddion > “Siomedig” bod y strategaeth tlodi plant yn cael ei gohirio

“Siomedig” bod y strategaeth tlodi plant yn cael ei gohirio

13.12.2023

Mae Sioned Williams AS, wedi mynegi ei “siom” am ddiffyg strategaeth tlodi plant, er gwaethaf addewidion Llywodraeth Cymru y byddai hyn yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd 2023.

Sioned Williams yng nghanol sgwrs yn gwisgo siaced leim werdd

Yn ei chwestiwn heddiw (dydd Mercher 13 Rhagfyr) i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, nododd Ms Williams ar yr adeg hon y llynedd - ar ddiwrnod olaf busnes y Senedd cyn toriad y Nadolig – i Blaid Cymru gyflwyno cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth tlodi plant, wedi'i seilio ar dargedau statudol, “fel mater o frys”.

Nododd Ms Williams fod y ddadl wedi bod mewn ymateb i'r rhai sy'n ymgyrchu yn erbyn tlodi, megis y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, y Comisiynydd Plant, Sefydliad Bevan, ac Achub y Plant - a'u galwadau cyson am strategaeth newydd, gyda thargedau, i roi gwell ffocws, cydlyniant ac i yrru'r gwaith hanfodol sydd angen ei wneud i ddileu tlodi plant.

Pleidleisiodd Llafur y cynnig i lawr, ac yn hytrach, pleidleisio dros eu gwelliant a oedd yn addo strategaeth erbyn diwedd 2023.

Mewn ymateb i Sioned Williams yn y Senedd heddiw, mynnodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, fod mynd i'r afael â thlodi plant yn parhau'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, Sioned Williams AS:

“Mae’n anodd iawn derbyn y naratif bod dileu tlodi plant yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, oherwydd, er eu bod yn mynnu ei fod yn bwysig iddyn nhw, dyma ni ar ddiwedd blwyddyn arall heb strategaeth.

“Er bod y Prif Weinidog eisoes wedi dweud nad yw ysgrifennu strategaethau yn mynd i roi bwyd ar fwrdd unrhyw un, dywed ei gyd-AS  sy'n cadeirio’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, mewn adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi ar dlodi plant, fod y ‘dystiolaeth yn glir’ bod ‘targedau yn gweithio’.

“Yn y cyfamser, t mae lefelau tlodi plant yng Nghymru yn parhau’n ystyfnig o uchel. Mae’r ffaith na fu targedau ar waith i fynd i’r afael â hyn ers 2016, er gwaethaf ymrwymiad y llywodraeth i ddileu tlodi plant erbyn 2020, yn sgandal genedlaethol.

“Sut gall rhywbeth fod yn ‘flaenoriaeth’ barhau i gael ei ohirio? .”

 

Yn ôl