AS yn galw i sicrhau nad yw cymunedau’r cymoedd yn cael eu hesgeuluso yng nghynlluniau Metro Bae Abertawe
14.08.2021
Mae Sioned Williams wedi galw am sicrhad bod opsiynau trafnidiaeth rheilffyrdd a rheilffyrdd ysgafn yn cael eu harchwilio'n llawn i wasanaethu cymunedau'r cymoedd yn Ne Orllewin Cymru fel rhan o brosiect Metro Bae Abertawe.
Mae'r weledigaeth o ddatblygu’r Metro, yn cynnwys ailagor llinellau rheilffordd a defnyddio rheilffyrdd ysgafn a bysiau.
Yn 2017, fel rhan o gytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru, cytunodd Llywodraeth Cymru wedyn i ariannu astudiaeth ddichonoldeb i'w ddatblygiad.
Mae Sioned wedi pwysleisio yn gyson bod yn rhaid i Metro Bae Abertawe gynnwys gwelliannau trafnidiaeth ar gyfer cymunedau cymoedd y rhanbarth.
Dywedodd Sioned Williams:
“Mae’n amlwg, wrth edrych ar lefel y tagfeydd a’r llygredd mewn rhannau o Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot fod angen i ni wella’r system drafnidiaeth gyhoeddus yn lleol yn sylweddol. Mae yna hefyd ddiffyg mawr o ran opsiynau trafnidiaeth yn gwasanaethu cymunedau ein cymoedd sy'n golygu bod pobl yn aml yn cael eu gorfodi i ddefnyddio eu ceir yn hytrach na defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
“Rydw i wedi dadlau ers amser dros fetro yn Ne Orllewin Cymru wrth gwrs, ond credwn fod yn rhaid i’r metro gynnwys gwasanaethau rheilffyrdd a rheilffyrdd ysgafn i’n cymunedau yn y cymoedd ac ni all ganolbwyntio ar Abertawe a threfi mawr eraill yn unig.
“Rhaid roi ystyriaeth ddifrifol i ailgyflwyniad posib wasanaethau rheilffyrdd i deithwyr neu reilffyrdd ysgafn ar gyfer Nghwm Tawe a Dyffryn Aman cyfan. Mae bylchau hefyd o ran opsiynau trafnidiaeth i gymoedd eraill, megis cymoedd Dulais, Nedd ac Afan.
“Mae angen ymrwymiad cadarn arnom y bydd hyn yn rhan o agenda dros y pum mlynedd nesaf.
“Byddai datblygu Metro Bae Abertawe heb opsiynau rheilffordd na rheilffyrdd ysgafn ar gyfer ein cymunedau yn y cymoedd yn gyfystyr â cholli cyfle sylweddol a allai niweidio’r cymunedau hynny yn economaidd.
“Mae angen i ni ddatblygu system wirioneddol integredig sy’n galluogi pobl ledled De Orllewin Cymru i gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel. Rhaid beidio â chaniatáu i Gymoedd y Gorllewin gael eu hesgeuluso. ”