logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > 6 Senedd > Newyddion > O Frwsel i Fargam

O Frwsel i Fargam - y beicwyr sy’n chwifio'r faner dros gynhwysiant

31.07.2024

Mae Sioned Williams AS yn cyfarch beicwyr yn y Senedd ar daith feicio elusennol o Frwsel i Fargam

Mae beicwyr o Ganolfan Ieuenctid Margam, Inclusion Stags, yn sefyll ar risiau'r Senedd yn eu dillad beicio, gyda'u beiciau ac yn dal baner eu tîm pêl-droed. Yn sefyll gyda nhw mae Sioned Williams MS a Helen Antoniazzi o Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae tîm o ymgyrchwyr wedi seiclo o Frwsel i Fargam i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynhwysiant i bobl ifanc anabl.

Roedd y beicwyr yn cynrychioli Margam Youth Centre Inclusion Stags, tîm sy’n hybu pêl-droed i blant ag anawsterau dysgu, anawsterau corfforol, Parlys yr Ymennydd, Awtistiaeth, Syndrom Down a phlant â hunan-barch isel a dyma’r unig glwb yng Nghymru i ddarparu pêl-droed â ffrâm ar gyfer plant â phroblemau symudedd.

Ar y ffordd, stopiodd y beicwyr yn Senedd Ewrop lle buont hefyd yn cwrdd â chynrychiolwyr o UEFA, cyn mynd yn ôl i Fargam gan alw heibio i Senedd San Steffan a Senedd Cymru.

Cafodd y beicwyr groeso yn y Senedd gan Sioned Williams AS, sy’n Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu, ac sy’n cynrychioli Margam ar lefel ranbarthol yn y Senedd, ac sy’n siarad dros Blaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, gan gwrdd ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Roeddwn yn falch iawn o gwrdd â’r tîm o feicwyr o Margam Youth Centre Inclusion Stags pan ddaethant i’r Senedd fel rhan o’u taith feicio i godi ymwybyddiaeth o gynhwysiant.

“Maen nhw'n dîm pêl-droed anhygoel sy'n darparu man lle gall pob plentyn ddod at ei gilydd a chwarae, p'un a ydyn nhw'n abl, yn anabl neu ag anawsterau dysgu.

“Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cynhwysiant go iawn, a rhaid i ni weithio tuag at Gymru lle mae pobl o bob gallu yn cael eu gwerthfawrogi’n gyfartal, yn cael eu clywed ac yn cael eu cynnwys.”

Dywedodd John Heycock, Prif Hyfforddwr tîm Margam Youth Centre Inclusion Stags:

“Fe wnaethon ni gychwyn gyda’r nod o wneud yn siŵr ein bod ni’n rhannu ein neges bwysig nad yw pobl anabl yn cael eu hanghofio a’u bod ar flaen meddyliau gwleidyddion wrth wneud unrhyw benderfyniadau a all effeithio ar eu bywydau bob dydd. Mae’r rhain yn bobl sy’n wynebu heriau aruthrol bob dydd, a dyna pam yr oedd yn bwysig inni ymweld â Senedd Ewrop, San Steffan a Senedd Cymru.

“Yma yng Nghymru mae mor bwysig i Lywodraeth Cymru sicrhau mwy o gyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad a darparu mwy o gefnogaeth i rieni a phlant ar y llwybr niwroamrywiaeth a thu hwnt.

“Roedd cyfarfod Sioned Williams AS yn chwa o awyr iach. Mae’n berson gwych sydd wedi croesawu ein her a’r angen am fwy o gefnogaeth i bobl anabl.”

Cyllid tyrfa

Plis cyfrannwch os oes modd: Just Giving

Yn ôl