logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > 6 Senedd > Newyddion > M&S yn gadael Abertawe

"Stori gyfarwydd ffiaidd" wrth i M&S ymadael o leoliad arall yng Nghymru

27.02.2026

Blaen siop Marks and Spencer yn Abertawe

Wrth ymateb i’r newyddion bod Marks and Spencer wedi cadarnhau y bydd yn cau ei brif siop yng nghanol Dinas Abertawe yn ddiweddarach eleni, dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

"Mae hwn yn newyddion ofnadwy i ganol dinas Abertawe ac i'r staff, er bod hon yn stori gyfarwydd iawn i lawer sy wedi gweld eu strydoedd mawr yn colli siopau hanesyddol.

"Fel gydag ymadawiad Marks and Spencer o Gastell-nedd ym mis Mai 2024, mae hyn yn fwy na cholli swyddi neu golli siop, mae'n golli darn o hanes lleol. Mae siop Stryd Rhydychen yn rhan bwysig o fywydau llawer o bobl, yn enwedig i'r 92 sy'n gweithio yno ar hyn o bryd. Yn ystod ei phresenoldeb 100 mlynedd yn Abertawe, bydd pobl wedi rhoi eu bywydau gwaith i'r siop hon a chwsmeriaid ffyddlon wedi helpu i adeiladu elw aml-filiwn o bunnoedd y cwmni hwn.

"Rwy'n falch o weld nad yw'r cwmni'n diystyru cynnal presenoldeb yn Abertawe, ond dylai'r lleoliad hwnnw fod yng nghanol y ddinas, ac nid y tu allan i'r dref.

"Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn pa gefnogaeth fydd yn cael ei chynnig i staff, a byddaf yn ysgrifennu at M&S ​​i'w hannog i gadw siop yn yr ardal."

Yn ôl