logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > 6 Senedd > Newyddion > Llythyr at y Post Brenhinol

Llythyr at y Post Brenhinol

06.07.2022

Yn dilyn cwynion cyson ynghylch cyflwr yr hen Swyddfa Bost yng Nghastell-nedd, rwyf wedi ysgrifennu at y Post Brenhinol i gadarnhau eu perchnogaeth o’r adeilad ger yr Orsaf ac i drosglwyddo’r sylwadau a gefais. Mae Swyddfa'r Post wedi bod yn wag ers blynyddoedd ac mae'n prysur ddirywio. Tra bod llawer o fusnesau'n buddsoddi'n helaeth i wneud y dref yn fwy deniadol - mae lleoedd fel yr hen Swyddfa Bost yn difetha'r ymdrechion hynny. Mae’r Post Brenhinol wedi cadarnhau perchnogaeth, felly byddaf yn awr yn ceisio cael y wybodaeth ddiweddaraf am eu cynlluniau ar gyfer yr adeilad yn y dyfodol.

Blwch post ar stryd, fan wen yn y cefndir

Yn ôl