logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > 6 Senedd > Newyddion > “Hynod siomedig” colli allan ar bwndeli babi “hanfodol”

“Hynod siomedig” y bydd rhai babanod newydd-anedig yn colli allan ar bwndeli babi “hanfodol”

21.12.2023

“Dylai mynd i’r afael â thlodi plant fod yn flaenoriaeth" – Sioned Williams AS

 

Cewynnau babi, potel ac arth tedi

Cafodd y cynllun, a gafodd ei dreialu yn Abertawe, ganmoliaeth eang am y ffaith ei fod ar gyfer pawb, rhywbeth a alwai Llywodraeth Cymru yn "bwynt allweddol" o'r rhaglen.

Fodd bynnag, yn y cyhoeddiad cyllidebol (dydd Mawrth 19 Rhagfyr), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai £3.5m yn cael ei dorri o'r rhaglen, ac ni fyddai'r cynnig yn un cyffredinol mwyach.

Mae hyn yn wahanol i argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a nododd ym mis Tachwedd bwysigrwydd "cefnogaeth gyffredinol gref" yn y blynyddoedd cynnar, a nod rhaglen yn yr Alban hefyd yw ymgysylltu rhieni â gwasanaethau.

Ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth yr Alban Gynllun "Blwch Babanod" sydd ar gael i bob plentyn newydd-anedig yn yr Alban.

Dywedodd llefarydd dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, Sioned Williams AS:

“O ganu ei glodydd, i gyfyngu ar eu huchelgais yn sylweddol, mae tro pedol ar y cynllun bwndel babi llwyddiannus yn hynod siomedig.

“Roedd canmoliaeth eang i'r cynllun peilot yn Abertawe i’w chlywed ar draws y Senedd, ac mae'n hysbys bod manteision ymyriadau cynnar yn hanfodol wrth fynd i'r afael â thlodi plant. Mae'n siomedig iawn felly y bydd cyfyngiadau'n cael eu gosod ar ba fabanod sy'n gymwys. Gwyddom fod llawer o deuluoedd nad ydynt yn gymwys i gael llawer o fathau o gymorth yn dal i gael trafferth talu am eitemau bob dydd, felly bydd yn hanfodol deall pwy fydd yn colli allan.

“O ran mynd i'r afael â thlodi plant, rhaid i ddull fod yn fwy strategol. Gyda'r oedi i'r strategaeth tlodi plant, dileu prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau, a nawr y cyfyngiadau sy'n cael eu gosod ar ba fabanod fydd yn gymwys i gael Bwndel Babanod, mae eu record wael yn siarad drosto eu hunain.

“Pan gyfyngir ar gyllid, mae'n bwysicach fyth sicrhau bod yr arian sydd ar gael yn cael ei wario'n effeithiol.”

Yn ôl