logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > 6 Senedd > Newyddion > Gweithredu i daclo tlodi tanwydd

Gweithredu i daclo tlodi tanwydd

22.03.2023

Fe ailadroddodd yr Aelod o'r Senedd Sioned Williams heddiw ei galwadau ar Lywodraeth Cymru i "weithredu nawr" ar dlodi tanwydd.

Yn ystod dadl yn y Senedd heddiw  cododd Sioned Williams yr angen i ddatganoli pwerau dros ddosbarthu a chyflenwi nwy a thrydan, yn ogystal ag hawliau defnyddwyr, i Gymru.

Dywedodd llefarydd ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams:

“Mae'n sgandal cenedlaethol bod 600,000 o bobl wedi’u gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu oherwydd na allent fforddio eu biliau ynni. Y ffaith yw, hyd nes y bydd pwerau dros ddosbarthiad a chyflenwad nwy a thrydan, ac amddiffyn defnyddwyr wedi eu datganoli i Gymru, ni fyddwn byth yn gallu bod yn gwbl hyderus y gallwn amddiffyn ein dinasyddion rhag y math hwn o niwed.

“Nid yw’r gwaharddiad dros dro ar osod mesuryddion rhagdalu dan orfodaeth yn 'job done', a, hyd yma, nid yw’r cod ymarfer ar gyfer cyflenwyr yn gyfreithiol orfodadwy. Fel y mae’r cynnig yn ei wneud yn glir, mae lefelau tlodi tanwydd yn ddifrifol yng Nghymru, a gallai hyn ddyfnhau hyd yn oed ymhellach. Mae'r rhai sydd wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu fel arfer yn cael trafferth nid yn unig gyda chostau byw, ond hefyd gyda dyledion."

Aeth Sioned Williams, sy’n cynrychioli Gorllewin De Cymru yn y Senedd, ymlaen i ofyn pryd yn union y byddai ei rhaglen Cartrefi Cynnes yn weithredol:

"Rhaid i ni gyflymu'r broses o wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi tanwydd-anghenus yng Nghymru. 

"Felly, byddwn yn gofyn eto, Weinidog: pryd y bydd y cynllun a arweinir gan alw, sy'n canolbwyntio ar y rhai sydd ar yr incwm isaf, sy'n byw yn y cartrefi lleiaf ynni-effeithlon, yn weithredol?"

Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.

Yn ôl