AS Plaid yn lleisio pryderon difrifol ynghylch dyfodol gwasanaethau bysiau
14.03.2023
Mae Sioned Williams, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, wedi lleisio ei phryderon difrifol ynghylch dyfodol ansicr y Cynllun Argyfwng Bysiau (BES) a’r effaith y byddai hynny’n ei gael ar drigolion Castell-nedd Port Talbot a chymunedau ledled rhanbarth Gorllewin De Cymru.R
oedd y cynllun yn un o’r mesurau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu gweithredwyr gwasanaethau bysiau drwy’r pandemig. Y disgwyliad oedd y byddai nifer y teithwyr yn cynyddu’n ôl i’r lefelau yr oeddent cyn y pandemig ac na fyddai felly angen i’r cynllun barhau. Ond nid yw nifer y teithwyr wedi dychwelyd i'r lefelau blaenorol, gan adael gweithredwyr bysiau'n ddibynnol ar y cynllun i gynnal gwasanaethau.
Roedd disgwyl i’r cynllun ddod i ben ym mis Mawrth, ond yn ddiweddar fe gyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd estyniad – estyniad am dri mis yn unig.
Dywedodd Sioned Williams:
“Er fy mod yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi estyniad i’r Cynllun Argyfwng Bysiau, mae gennyf bryderon difrifol am yr effaith y bydd y toriad trychinebus hwn mewn cymorth yn ei gael ar wasanaethau bysiau yng Nghastell-nedd Port Talbot ac ar draws rhanbarth Gorllewin De Cymru.
“Rwyf wedi derbyn gohebiaeth yn ddiweddar gan awdurdodau lleol, cwmnïau bysiau a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus sy’n rhannu fy mhryderon ac yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau ar unwaith i ddiogelu’r rhwydweithiau hanfodol hyn.
“Mae bysiau’n wasanaethau hanfodol. Maent yn hanfodol gan eu bod yn galluogi i bobl deithio i ac yn ôl o’u gwaith, ac hefyd yn eu galluogi i ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus a hamdden. Maent yn rhan hanfodol o’n huchelgeisiau ar gyfer lleihau allyriadau carbon, mynd i’r afael ag unigedd ac ehangu mynediad at swyddi a chyfleoedd. Mae adeiladu rhwydwaith cynhwysfawr, cynaliadwy o fysiau aml, dibynadwy a fforddiadwy yn gofyn am gynllun a chyllid priodol. Mae Llywodraeth Cymru yn methu â chyflawni’r ddau beth yma.”
Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (14 Chwefror), holodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price AoS Lywodraeth Cymru ynghylch y toriadau posibl hyn, lle dyfynnodd Brif Weithredwr Cyngor CNPT, Karen Jones a ddywedodd mewn ymateb i lythyr gan Sioned Williams: “ei bod yn wyrdroedig bod Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i ddarparu teithio cynaliadwy, gyda’r cyhoedd yn cael eu hannog i ddibynnu llai ar drafnidiaeth breifat, ond fod penderfyniadau ariannu, fel y cynigir yma, yn mynd i orfodi mwy o bobl i deithio mewn car, gan beryglu amcan y polisi”.