logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > 6 Senedd > Newyddion > Caru Castell-nedd

Caru Castell-nedd

21.03.2023

Ar ôl aros yn eiddgar am yr ychwanegiad newydd hwn i Gastell-nedd, roedd yn bleser ymweld â Rosa’s Bakery ar eu hail ddiwrnod o fod ar agor. Roedd y croeso cynnes yn gyferbyniad gwych i’r tywydd oer, gwlyb y tu fas. Beth am y bwyd a'r diod? Yn syml, roedd y coffi a croissant ymhlith y gorau rydw i wedi'i gael! Yn bendant mae hwn yn lle gwerth ymweld ag e.

Sioned o flaen cownter yn llawn cacennau ac aelodau staff y tu ôl i'r cownte

Fe wnes i bicio i mewn i Y Lle Da hefyd - siop sero gwastraff gyntaf Castell-nedd. Gydag amrywiaeth eang o nwyddau, nid yw'n syndod eu bod yn tyfu'n fwyfwy poblogaidd ers agor sawl wythnos yn ôl.

Yn olaf, es i Oriel Stryd y Frenhines a siarad â Beth am yr amrywiaeth eang o arddangosfeydd, gweithdai a digwyddiadau y maent naill ai'n eu cynnal neu'n eu cynllunio. Rwyf wrth fy modd yn ymweld ag orielau. Dros y pum mlynedd diwethaf maent wedi tynnu sylw at dalent leol ac wedi darparu llwyfan i artistiaid hen a newydd.

Boed yn newydd neu’n hirsefydlog, mae busnesau fel y rhain a’r bobl angerddol y tu ôl iddynt yn ychwanegu at gymeriad Castell-nedd. Rwy'n dymuno pob lwc iddynt a’r llu o fusnesau annibynnol gwych eraill yng nghanol y dref!

Yn ôl