logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > 6 Senedd > Newyddion > Archif Newyddion 2024 > Ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl uwchradd

Rhaid ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl uwchradd sy'n byw mewn tlodi

10.01.2024

Mae methiant i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru yn effeithio ar allu plant i ddysgu

Mae Sioned Williams wedi galw ar Lywodraeth Cymru unwaith eto, i ehangu prydau ysgol am ddim i blant ym mlynyddoedd 7- 11 o deuluoedd sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, heb unrhyw gap ar enillion

disgyblion yn bwyta cinio yn yr ysgol

Mewn dadl yn y Senedd ddydd Mercher 10 Ionawr, bydd Sioned Williams AS hefyd yn tynnu sylw at fethiannau'r Llywodraeth i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru mewn perthynas â chyrhaeddiad addysgol.

O dan eu goruchwyliaeth, mae un o bob tri phlentyn yn byw mewn tlodi - ystadegyn y mae llefarydd  dros gydraddoldeb, Sioned Williams AS yn dweud sydd wedi aros yn "ystyfnig o uchel".

Wrth nodi'r gydberthynas rhwng tlodi plant a'r bwlch cyrhaeddiad addysg i blant yng Nghymru, bydd Ms Williams yn dyfynnu canlyniadau PISA diweddaraf a'r adroddiad cenedlaethol a ddangosodd fod 11% o ddysgwyr yng Nghymru wedi colli pryd o fwyd oherwydd tlodi.

Yn ystod y ddadl, bydd Ms Williams yn tynnu sylw at sawl achos dros y nifer uchel hon o dlodi, gan gynnwys yn diddymu targedau tlodi plant, a’r diffyg cefnogaeth i deuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus.

Dywedodd llefarydd dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, Sioned Williams AS:

“Dylai'r ffaith bod un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi fod yn achos sgandal cenedlaethol. Ond pan cafodd targedau ar gyfer dileu tlodi plant ei ddiddymu, ac wedi gohirio cyhoeddi strategaeth tlodi plant newydd, a yw'n syndod bod y nifer yn parhau i fod mor ystyfnig o uchel?

“Yng Nghymru, rydym yn ffodus o gael gweision cyhoeddus gweithgar – athrawon, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cyngor a gweithwyr trydydd sector – i gyd wedi ymrwymo i helpu datblygiad ein plant a mynd i'r afael â thlodi plant. Ond dro ar ôl tro mae eu gwaith yn cael ei danseilio gan bwysau cyllidebol cystadleuol a diffyg ffocws clir. 

“Mae cymaint sydd angen ei wneud, gan gynnwys cyhoeddi a gweithredu cynllun statudol sy'n cael ei yrru gan dargedau i fynd i'r afael â thlodi plant, i helpu i gau'r bwlch cyrhaeddiad a gwella canlyniadau addysg.

“Mae darparu pryd ysgol faethlon am ddim i fwy o blant yn un ffordd o sicrhau tegwch. 

“Dylai mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru fod yn flaenoriaeth ac mae angen iddynt wneud popeth o fewn eu gallu i liniaru effeithiau dinistriol tlodi ar gyrhaeddiad a rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.”

Yn ôl